Newyddion S4C

Ynys Môn: Lladron yn dwyn ffens 40 troedfedd o hyd o Fynydd Parys

17/10/2024
Ffens Mynydd Parys

Mae’r heddlu’n ymchwilio wedi i ddarn 40 troedfedd o hyd o ffens gael ei ddwyn ger Mynydd Parys ar Ynys Môn.

Mae swyddogion yn credu bod y ffens mesh sgwâr, sydd ag uchder o saith droedfedd, wedi ei ddwyn rhwng dydd Sul 13 Hydref a dydd Llun 14 Hydref.

Roedd hynny wedi galluogi i wartheg ddianc i'r ffordd a fyddai wedi gallu achosi “gwrthdrawiad difrifol” yn ôl y llu.

“Fe fydda hyn wedi gallu bod yn drychinebus,” meddai Rhys Evans o dîm Troseddau Gwledig Heddlu’r Gogledd.

“Does ‘na ddim goleuadau o gwbwl i fyny fan ‘ma, ac mi fydda’r gwartheg yma wedi gallu achosi damwain difrifol iawn.”

Fe allai unrhyw un sydd ag unrhyw wybodaeth sy’n berthnasol, gysylltu â Heddlu Gogledd Cymru gan ddyfynnu’r cyfeirnod Q155146.

Llun: Heddlu Gogledd Cymru

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.