Dod o hyd i ail gorff wedi ffrwydrad mewn tŷ
17/10/2024
Mae’r gwasanaethau brys wedi dod o hyd i ail gorff wedi ffrwydrad mewn tŷ a laddodd blentyn saith oed ddydd Mercher.
Dywedodd yr heddlu bod corff dyn 30 oed wedi ei ddarganfod yng ngweddillion y tŷ ar Violet Close yn Newcastle-upon-Tyne.
Cafodd chwech o bobl - pump o oedolion a phlentyn - eu cludo i'r ysbyty, gyda phob un ond un bellach wedi cael mynd adref.
Dywedodd yr Uwch-arolygydd Darren Adams, o Heddlu Northumbria: “Mae ein meddyliau ni gyda theulu a ffrindiau’r ddau berson sydd wedi colli eu bywydau mewn modd mor drist.
“Mae swyddogion arbenigol yn cefnogi eu hanwyliaid ac rydyn ni’n annog pawb i barchu eu preifatrwydd ar hyn o bryd.”