Newyddion S4C

Dyfrig Siencyn wedi ymddiswyddo fel arweinydd Cyngor Gwynedd

Dyfrig Siencyn wedi ymddiswyddo fel arweinydd Cyngor Gwynedd

Mae Dyfrig Siencyn wedi ymddiswyddo fel arweinydd Cyngor Gwynedd, yn dilyn beirniadaeth am ei ymateb i achos y pedoffeil Neil Foden.

Roedd Mr Siencyn yn arweinydd ar Gyngor Gwynedd ers 2017, ac roedd wedi ymddiswyddiad fel arweinydd Grŵp Cynghorwyr y blaid nos Fercher.

Daw ei ymddiswyddiad wedi beirniadaeth ymysg cynghorwyr o'i ymateb i achos Neil Foden wedi iddo wrthod ymddiheuro yn wreiddiol i ddioddefwyr y pedoffeil ar raglen Newyddion S4C yr wythnos diwethaf.

Ym mis Gorffennaf, fe gafodd Neil Foden ei garcharu am 17 mlynedd am gam-drin pedair o ferched yn eu harddegau yn rhywiol.

Fe fydd Nia Jeffreys yn dod yn arweinydd ar y cyngor dros dro nes bydd arweinydd newydd yn cael ei ddewis yng nghyfarfod llawn nesaf y cyngor.

Ymddiswyddodd Dyfrig Siencyn fel arweinydd Grŵp Cynghorwyr Plaid Cymru Gwynedd fore Iau cyn cyhoeddi y bydd yn camu lawr o'i swydd yn y cyngor.

Roedd pedwar aelod o gabinet Cyngor Gwynedd wedi ymddiswyddo o'r cabinet ddydd Iau diwethaf oherwydd eu hanhapusrwydd gyda'r modd yr oedd arweinyddiaeth y cyngor wedi ymdrin ag achos y cyn-bennaeth.

Mewn datganiad dywedodd Mr Siencyn: “Rhaid i mi gydnabod fod y cyfnod mwyaf diweddar hwn – a’r wybodaeth erchyll sydd wedi dod i’r amlwg am weithredoedd anfaddeuol y pedoffeil Neil Foden – wedi bod y mwyaf heriol i’r Cyngor fel awdurdod ac i minnau fel Arweinydd.

 “Mae’n ddrwg calon gen i am y boen mae’r dioddefwyr a’u teuluoedd wedi mynd drwyddo oherwydd y dyn hwn, ac maent yn parhau i fod ar flaen fy meddwl.”

Dywedodd fod ei gyfnod wrth y llyw yn "fraint".

“Mae wedi bod yn fraint ac yn anrhydedd i arwain Cyngor Gwynedd dros y saith mlynedd ddiwethaf," meddai.

"Hoffwn ddiolch o galon i fy nghyd aelodau Cabinet, aelodau etholedig o bob grŵp gwleidyddol ac i staff y Cyngor am eu cyfeillgarwch, eu hymrwymiad a’u gwaith diflino dros bobl a chymunedau’r sir."

Roedd Mr Siencyn yn arweinydd ar Gyngor Gwynedd ers 2017 ac yn cynrychioli ward gogledd Dolgellau.

Yn y cyfamser, bydd Dirprwy Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Nia Jeffreys yn ymgymryd â dyletswyddau’r Arweinydd dros dro hyd nes bydd trefniadau parhaol wedi eu gwneud.

'Arweiniad cadarn'

Fore Iau mae Aelodau Seneddol Plaid Cymru yn y gogledd wedi ymateb i ymddiswyddiad arweinydd y cyngor.

Diolchodd Siân Gwenllian AS am ei arweiniad dros y saith mlynedd diwethaf.

Mae Dyfrig wedi rhoi arweiniad cadarn i Gyngor Gwynedd mewn cyfnod o lymder mawr a heriau digynsail. 

"Er gwaetha hynny, mae Cyngor Gwynedd ymhlith y mwyaf blaengar ac uchel ei barch drwy Gymru, gyda llawer o’r diolch am hynny i Dyfrig. 

Ychwanegodd  Liz Saville Roberts ei fod yn haeddu cael ei gofio fel un o "arweinwyr mwyaf blaengar" Cymru.

“Mae Dyfrig Siencyn wedi sefyll yn gadarn fel arweinydd Gwynedd yn wyneb heriau aruthrol," meddai.

"Mae o'n haeddu cael ei gofio fel arweinydd un o gynghorau mwyaf blaengar Cymru. Mi aeth i’r afael ag anghenion tai a phroblemau gormodedd o dai gwyliau.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.