Newyddion S4C

Dyfrig Siencyn wedi ymddiswyddo fel arweinydd Grŵp Cynghorwyr Plaid Cymru Gwynedd

17/10/2024
Dyfrig Siencyn
Dyfrig Siencyn

Mae Dyfrig Siencyn wedi ymddiswyddo fel arweinydd Grŵp Cynghorwyr Plaid Cymru Gwynedd, gan arwain at ansicrwydd sylweddol am ei rôl ehangach fel arweinydd y cyngor.

Mae Mr Siencyn yn arweinydd ar Gyngor Gwynedd ers 2017, ac fe fydd ei ymddiswyddiad fel arweinydd Grŵp Cynghorwyr y blaid yn y sir yn codi cwestiwn am ei ddyfodol yn y rôl honno, gan fod arweinydd y brif blaid hefyd yn arweinydd ar y cyngor llawn.

Daw ei ymddiswyddiad wedi beirniadaeth ymysg cynghorwyr o'i ymateb i achos Neil Foden wedi iddo wrthod ymddiheuro yn wreiddiol i ddioddefwyr y pedoffeil, yn dilyn darlledu rhaglen deledu ddiweddar am yr achos.

Ym mis Gorffennaf, fe gafodd Neil Foden ei garcharu am 17 mlynedd am gam-drin pedair o ferched yn eu harddegau yn rhywiol.

Mewn datganiad fore Iau, dywedodd Cadeirydd Grŵp Cynghorwyr Plaid Cymru Gwynedd, Cai Larsen, fod Mr Siencyn wedi cynnig ei ymddiswyddiad nos Fercher, a bod aelodau'r grŵp wedi ei dderbyn: 

"Yn dilyn trafodaethau yng nghyfarfod Grŵp Cynghorwyr Plaid Cymru Gwynedd ddoe cynigiodd arweinydd y Grŵp, y Cynghorydd Dyfrig Siencyn, ei ymddiswyddiad i’r aelodau. Derbyniwyd ei ymddiswyddiad.

“Hoffai holl aelodau’r Grŵp ddiolch o waelod calon i’r Cynghorydd Dyfrig Siencyn am ei waith a’i ymroddiad fel arweinydd dros y saith mlynedd ddiwethaf. Dymunwn yn dda iddo i’r dyfodol.

“Bydd ethol arweinydd newydd i’r Grŵp yn digwydd, maes o law, yn unol â’n trefn a phrosesau arferol.”

Roedd pedwar aelod o gabinet Cyngor Gwynedd wedi ymddiswyddo o'r cabinet ddydd Iau diwethaf oherwydd eu hanhapusrwydd gyda'r modd yr oedd arweinyddiaeth y cyngor wedi ymdrin ag achos Neil Foden.

Mewn datganiad dywedodd y cynghorwyr Beca Brown, Berwyn Parry Jones, Dafydd Meurig ac Elin Walker Jones eu bod nhw’n camu i lawr oherwydd gwahaniaeth barn gydag arweinyddiaeth y cyngor.

Ddiwrnod yn ddiweddarach fe wnaeth Mr ap Siencyn ymddiheuro i ddioddefwyr Neil Foden.

Roedd wedi dod dan bwysau gan arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth, oedd wedi dweud bod angen iddo “feddwl eto” am ymddiheuro, cyn iddo wneud hynny.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.