
Y celfyddydau’n ‘dechrau gweld y goleuni’

Y celfyddydau’n ‘dechrau gweld y goleuni’
Mae’r celfyddydau yn “dechrau gweld y goleuni” yn dilyn cyhoeddiad Llywodraeth Cymru y bydd cyfyngiadau Covid yn cael eu llacio ddydd Sadwrn.
O dan reolau lefel rhybudd un, bydd hyd at 1,000 o bobl yn gallu mynychu digwyddiadau dan do cyhyd ag y maen nhw’n cadw pellter cymdeithasol.
Galwodd Gwennan Mair Jones o Theatr Clwyd, y newyddion yn “bositif iawn” i theatrau ac i’r celfyddydau.
Yn dilyn blwyddyn “andros o anodd” i nifer o theatrau ac artistiaid llawrydd, “mae’n gyffrous iawn ein bod ni’n dechrau gweld y goleuni, a bod pobl yn gallu profi ychydig bach o theatr eto,” meddai Ms Jones, sef Cyfarwyddwr Ymgysylltu Creadigol y theatr.
“Mae o’n newyddion rili da i ni fel sefydliad bod y cyfyngiadau’n newid. Yn amlwg, mae o’n bwysig i ni barhau i ddiogelu ein cynulleidfa, a dal i roi pethau mewn lle sydd yn gwneud i bobl deimlo’n ddiogel. Ond yn ariannol mae hwn yn newyddion da iawn i ni.”

“Yn Theatr Clwyd rydyn ni wedi bod yn andros o lwcus achos rydyn ni wedi cael cefnogaeth gan y Llywodraeth, Cyngor y Celfyddydau, a Chyngor Sir y Fflint,” meddai Ms Jones.
“Ond ‘dw i’n meddwl bod e’n rili bwysig cydnabod bod theatrau eraill wedi ei chael hi’n anodd, a ddim mor lwcus â ni yn ariannol.”
Nid theatrau yn unig sydd wedi dioddef, dywedodd Ms Jones, ond “artistiaid llawrydd, hefyd.”
“Mae o wedi bod yn amser andros o anodd i artistiaid, a nhw sydd yn creu’r gwaith – maen nhw’n elfen mor bwysig o’r celfyddydau yma yng Nghymru.
“Mae o’n mynd i gymryd amser i ni ail-adeiladu’r diwydiant yma yng Nghymru, ac yn bennaf magu hyder artistiaid yn ôl i mewn – mae lot o bobl wedi gadael i fynd i swyddi eraill.”
Dywedodd bod rhaid ystyried “sut ydyn ni’n dal i weithredu, sut ydyn ni eisiau i’r celfyddydau symud yn eu blaen, a gwneud yn siŵr ei fod yn ddiwydiant sydd yn agored i bawb, nid jyst y bobl sydd yn gallu fforddio aros o fewn y celfyddydau.”
Cadarnhaodd y Prif Weinidog Mark Drakeford heddiw y byddai Cymru’n symud at Lefel Rhybudd Sero ar 7 Awst “os y bydd yn ddiogel” i wneud hynny.
Byddai hyn yn golygu diddymu’r mwyafrif o gyfyngiadau Covid-19, gan gynnwys cyfyngiadau i’r nifer o bobl sy’n gallu mynychu digwyddiadau dan do a diwedd rheolau ymbellhau cymdeithasol.

Gyda hyn mewn golwg, gobaith Theatr Clwyd dros y misoedd nesaf yw i greu rhaglen sy’n ddiogel ar gyfer y gymuned a chynnal a chynnig gwaith ar gyfer artistiaid, meddai Ms Jones.
Bydd y theatr hefyd yn edrych ymlaen at y Nadolig.
“Mae’r Nadolig yn amser andros o bwysig i ni fel theatr, fel lot o theatrau eraill,” oherwydd y pantomeim.
“Mi fysa fo mor mor braf bod cymuned Sir y Fflint a phwy bynnag sydd fel arfer yn dod i weld y ‘panto’ yn cael dod i’w weld o.”
“‘Dw i’n meddwl ein bod ni gyd wedi teimlo dros y flwyddyn diwethaf ‘ma pa mor bwysig ydy’r celfyddydau, a pha mor bwysig ydy e i’n bywydau i ni rannu profiad gyda’n gilydd.
“Felly ie, mae o’n bositif iawn er mwyn dechrau’r siwrne yna o ail-adeiladu’r diwydiant.”