Llun gan yr arlunydd Gwen John yn gwerthu am y pris uchaf erioed am ei gwaith
Mae llun gan yr arlunydd Gwen John, 'Y ferch mewn ffrog las', wedi ei werthu am ddwbl ei amcan bris.
Fe gafodd y llun ei werthu am £403,200 mewn ocsiwn yn Christie's, er mai'r amcangyfrif ar gyfer ei bris oedd rhwng £120,000 i £180,000.
Dyma'r pris uchaf erioed am ei gwaith, ac mae'r llun yn dyddio yn ôl i 1914/1915.
Mae'r llun yn un o gyfres o wyth gwaith celf o'r un model, ac fe gafodd ei brynu gan Amgueddfa Genedlaethol Cymru ym 1935 am £20.
Eglurodd yr arlunydd Gwen John wrth ei chyfaill Mary Anderson ar y pryd ei bod "angen arian felly anfonais bum llun i Loegr...fe gafodd un ei werthu i amgueddfa lluniau ac fe ges i lythyr crand iawn gan y cyfarwyddwr, felly dwi ddim angen arian ar hyn o bryd'.
Roedd Gwen John yn enedigol o Sir Benfro ac fe aeth i astudio ym Mharis ym 1898 gan fynychu academi newydd James Abbott McNeil Whistler.
Roedd hefyd yn gysylltiedig â llawer o ffigyrau blaenllaw yn y byd celf yn ystod ei hoes.
Fe arddangosodd ei gwaith ynghyd â'i brawd Augustus yn Oriel Carfax yn Llundain ym 1903.
O 1904 hyd at ei marwolaeth ym 1917, roedd yn fodel a meistres i Auguste Rodin, gyda mwy na 1000 o lythyrau yn amgueddfa'r Musée Rodin ym Mharis yn cofnodi eu perthynas.
Llun: Ystâd Gwen John