Newyddion S4C

'Sober October': Seren TikTok yn galw ar bobl ifanc i ddeall bod modd cael ‘hwyl heb yfed’

ITV Cymru 17/10/2024

'Sober October': Seren TikTok yn galw ar bobl ifanc i ddeall bod modd cael ‘hwyl heb yfed’

Mae miliynau yn cymryd rhan bob blwyddyn yn 'Dry January' ond mae'r blynyddoedd diwethaf wedi gweld twf 'Sober October' gan olygu mis di-alcohol cyn dathliadau'r Nadolig.

Un sy'n annog pobl i fynd amdani yw Siôn Meirion, sydd wedi bod yn postio am ei siwrne tuag at sobrwydd i gynulleidfa o ddegau o filoedd ar TikTok dan yr enw 'The Sober Gay'.

Y nod meddai yw dysgu pobl ifanc fod yna ‘opsiynau eraill’ i fwynhau heb yfed alcohol.

Mae’n dweud roedd y broses o droi’n sobor yn un "anodd" ar y dechrau, ond wrth iddo ddechrau adeiladu cymuned ar TikTok ac ymuno ag ymgyrchoedd fel ‘Sober October,’ daeth pethau’n haws.

“Os oes yna stigma, chdi sydd yn y driving seat o fywyd dy hun - ‘dio ddim rili ots beth mae pobl eraill yn meddwl amdanat ti," meddai.

“[Mae] pwysigrwydd misoedd fel Sober October, ‘dwi’n meddwl bod pobl yn cael sens o gymuned a bod yna bobl eraill yn gwneud yr un peth â chdi. 

"Chdi’n teimlo’n llai fatha bo’ chdi’n gwneud o ar ben dy hun.”

'Hwyl heb yfed'

Yn 2023, fe wnaeth Drinkaware gyhoeddi canlyniadau arolwg sobrwydd dros gyfnod o chwe blynedd. Fe wnaeth y canlyniadau ddangos bod pobl ifanc nawr yn fwy tueddol o beidio yfed alcohol, gyda chynnydd o 14% o bobl ifanc yn 2017 i 21% yn 2023.

Ymgyrch gan Macmillan Cancer Support ydy Sober October, er mwyn codi arian i gefnogi pobl sy’n byw gyda chanser.

“Ma ‘na lot o bobol Gen-Z nawr yn dewis peidio yfed neu bod yn fwy ‘sober-curious’," meddai Siôn Meirion. 

"Mae yna lot o bobl yn enjoio mwy fatha exercise, wellness, mynd i glybiau rhedeg.”

Ychwanegodd: "Dwi jesd eisiau dweud wrth pobl, pobl ifanc yn enwedig, fod yna opsiwn arall i byw ffordd wahanol a ti dal yn gallu cael hwyl heb yfed."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.