Digwyddiad recriwtio i ddenu mwy o athrawon o leiafrifoedd ethnig
Mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cynnal nifer o ddigwyddiadau recriwtio i ddenu mwy o athrawon o leiafrifoedd ethnig.
Bydd y digwyddiadau yn cael eu cynnal yng Nghaerdydd, Abertawe a Chaerdydd ym mis Hydref fel rhan o Hanes Pobl Dduon 365.
Cyngor y Gweithlu Addysg a'r partneriaethau AGA, sef y sefydliadau sy'n darparu hyfforddiant athrawon, sy'n trefnu'r digwyddiadau.
Mae nhw'n ran o ymgyrch ehangach i gynyddu nifer yr athrawon du, Asiaidd ac o gymunedau ethnig lleiafrifol eraill yng Nghymru.
Ym mis Tachwedd 2023 roedd 350 o athrawon (1.4%) o ethnigrwydd Du, Asiaidd, Cymysg neu arall – cynnydd o 1.2% yn 2022.
'Nid oes yr un freuddwyd yn rhy fawr'
Mae Adele Fynn yn hyfforddi i fod yn athrawes ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd ar ôl cael ei hysbrydoli gan y digwyddiad y llynedd.
"Dw i wir yn credu, taswn i heb fynd i'r digwyddiad, na fyddwn i wedi parhau â'r broses ymgeisio," meddai Ms Fynn.
"Mae fy awydd i ddysgu wedi'i wreiddio'n ddwfn yn y gred y gall addysg drawsnewid bywydau. Dw i wedi gweld y gwirionedd hwn drosof fi fy hun. Yn ddewr iawn, fe wnaeth fy mam, a oedd yn nyrs, symud ein teulu ni i Gaerdydd ac, yn sgil ei dymuniad am addysg, agorwyd drysau a wnaeth ailgyfeirio ein dyfodol."
Ychwanegodd: "Dw i eisiau sbarduno'r newid hwnnw ym mywydau plant, gan ddangos iddyn nhw nad oes yr un freuddwyd yn rhy fawr, na'r un rhwystr yn rhy amhosibl i'w oresgyn. Dw i eisiau helpu plant i ddod o hyd i'w cynefin."
Dywedodd Lynne Neagle, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, bod angen i'r gweithlu "adlewyrchu poblogaeth Cymru yn well".
"Gall addysg fynd ffordd bell i fynd i'r afael â'r ffactorau cymdeithasol, diwylliannol a strwythurol sy'n cynnal anghydraddoldeb hiliol. I wneud hyn, mae'n hanfodol ein bod yn cynyddu amrywiaeth ein gweithlu addysgu," meddai.
"Dw i wedi ymrwymo i sicrhau bod gyda ni weithlu sy'n adlewyrchu poblogaeth Cymru yn well, er mwyn cefnogi ein dysgwyr yn well a sicrhau eu bod yn gweld eu hunain yn cael eu hadlewyrchu ymhlith y bobl sy'n eu haddysgu."