Newyddion S4C

Llywodraeth Cymru yn parhau i newid ei safbwynt ar sut i ddysgu darllen Saesneg

ITV Cymru
Plant yn darllen mewn ysgol

Fis diwethaf, fe wnaeth ymchwiliad ITV Cymru ddatgelu bod y dechneg o bromptio (cueing), sydd wedi cael ei phrofi’n aneffeithiol, dal yn cael ei ddefnyddio’n helaeth mewn ysgolion ar draws Cymru.

Mae plant yn cael eu dysgu i ddefnyddio lluniau neu gyd-destun y frawddeg er mwyn dehongli geiriau Saesneg anghyfarwydd. 

Mae hyn yn seiliedig ar theori mae llawer yn dweud gafodd ei gwrthbrofi ddegawdau yn ôl gan wyddonwyr.

Ddydd Mercher, o ganlyniad i'r ymchwiliad, bydd y gwrthbleidiau yn cynnal dadl ar y mater yn y Senedd.

Ymateb cychwynnol Llywodraeth Cymru i’r ymchwiliad oedd eu bod nhw ddim yn argymell unrhyw ffordd benodol o addysgu darllen.

Yr wythnos wedyn, fe wnaeth Llywodraeth Cymru gyfaddef bod angen egluro’r cyngor i ysgolion. Fe wnaeth llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru ddweud wrth ITV News na ddylai’r dechneg gael ei ddefnyddio ar gyfer ceisio datrys geiriau anghyfarwydd.

'Hanfodol' i athrawon roi cymorth

Mewn cyfweliad gydag ITV Cymru fe wnaeth Lynne Neagle, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, dro-pedol arall.

Yn ôl Ms Neagle, gall y dechneg gael ei defnyddio fel dull o addysgu darllen, gydag elfennau ffonig (phonics).

Dysgu sut mae llythrennau yn cysylltu â synau ydy’r dull ffonig. Ond mae gwyddonwyr darllen yn nodi gall y dull o bromptio danseilio’r dull ffonig, gan bod sylw plant yn cael ei dynnu o’r llythrennau sydd yn annog nhw i ddyfalu.

Pan gafodd Ms Neagle ei chwestiynu ymhellach, dywedodd hi y dylai athrawon barhau i ddefnyddio’r dechneg o bromptio law yn llaw â’r dull ffonig fel “ffordd gytbwys i addysgu darllen.”

“Rwy’n credu dylai athrawon ddefnyddio’r dull ffonig fel sail o fewn system gytbwys.”

“Ni fydd rhai disgyblion yn barod ar gyfer y dull ffonig eto, ac rwy’n credu’i bod hi’n hanfodol bod ein hathrawon yn gallu helpu disgyblion mewn modd addas sy’n cefnogi eu gallu nhw.”

Chwarae 'catch up'

Mae nifer o athrawon yn poeni bod nifer o ddisgyblion sy’n cyrraedd blwyddyn saith eleni heb yr allu i ddarllen geiriau.

“Rydym yn sylwi yn ddiweddar ein bod ni’n derbyn nifer o ddisgyblion gydag oedran darllen isel iawn,” meddai Jessica Nelms, Is-Bennaeth yr adran Saesneg a Llythrennedd yn Ysgol Uwchradd yr Helyg, yng Nghaerdydd.

“Rydym yn disgwyl bod oedran darllen y plant yn cyfateb â’u hoed, mae oedrannau darllen rhai disgyblion mor isel â phump neu chwech yn hytrach nag 11.”

“Mae’n golygu ein bod ni’n parhau i chwarae ‘catch-up’. Mewn byd delfrydol, rydym yn disgwyl bod disgyblion uwchradd yn gallu deall, neu o leiaf ddarllen, rhai testunau, ond rydyn ni nawr yn gweld ein bod ni’n gorfod ail-addysgu rhannau o hynny.”

Fe wnaeth ymchwiliad ITV ddarganfod bod ysgolion o fewn o leiaf 17 o’r 22 awdurdod lleol yng Nghymru yn parhau i ddefnyddio dulliau addysg sydd heb gefnogaeth y llywodraeth.

Mae rhieni  rhai plant yn troi at diwtoriaid fel Heather Penney, o Eryri, sy'n defnyddio techneg Ffoneg Synthetig Systematig. 

“Rwyf wedi dychryn bod y bobl sy’n gyfrifol am y cwricwlwm yn hybu’r dechneg o bromptio, achos cafodd y dull yna ei brofi’n aneffeithiol. Mae’r ymchwil yn erbyn y dechneg honno yn glir. Mae’n peri gofid achos mae hi’n anodd iawn i addysgu rhywun i beidio dyfalu gair ar ôl iddyn nhw arfer â gwneud hynny.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.