Llifogydd yn achosi problemau yn y gogledd-ddwyrain
Llifogydd yn achosi problemau yn y gogledd-ddwyrain
Mae’r heddlu wedi rhybuddio gyrwyr i osgoi sawl ffordd yn y gogledd-ddwyrain wedi llifogydd.
Mae traffig ar sawl ffordd wedi ei rhwystro gan lifogydd brynhawn ddydd Mercher yn Sir y Fflint a Wrecsam wedi i law trwm syrthio yno.
Mae heddlu’r gogledd wedi rhybuddio gyrwyr i osgoi sawl ffordd yn yr ardal, gan gynnwys yn ninas Wrecsam a’r cyffiniau, Yr Wyddgrug, Rhosllaerchrugog, Brychdyn a Llangollen.
Mae gwasanaethau trên yn y gogledd a'r dwyrain hefyd wedi eu heffeithio oherwydd llifogydd yn ardal yr Amwythig.
Mae National Rail wedi rhybuddio teithwyr y gallai hyn achosi i rai gwasanaethau cael eu canslo neu eu hoedi.
Inline Tweet: https://twitter.com/NorthWalesFire/status/1846556802168627270
Mae yna bymtheg o rybuddion coch am lifogydd wedi eu cyhoeddi yng Nghymru gan Cyfoeth Naturiol Cymru yn ogystal.
Mae deg o’r rhybuddion yn ymwneud â'r afon Hafren ar hyd y ffin ddwyreiniol, yn ogystal ag afonydd Tefeidiad ac Efyrnwy yn y canolbarth ac afon Mynwy yn Sir Fynwy.
Mae 22 o rybuddion oren mewn grym ar draws y wlad yn ogystal.
Cafodd tair ysgol eu cau ym Mhowys oherwydd y tywydd garw; Ysgol Trefaldwyn, Ysgol Uwchradd y Drenewydd ac Ysgol Gynradd Tre'r Llai yn y Trallwng.
Daw yn sgil rhybudd melyn am law trwm gan y Swyddfa Tywydd, fydd mewn grym nes 21.00 nos Fercher.