'Does unman yn ddiogel': Lansio apêl i helpu pobl y Dwyrain Canol
17/10/2024
Mae grŵp o elusennau wedi lansio apêl i helpu'r rhai sydd wedi eu heffeithio gan y gwrthdaro yn y Dwyrain Canol.
Bydd Pwyllgor Argyfyngau Brys (DEC) Cymru yn lansio Apêl Ddyngarol y Dwyrain Canol ddydd Iau.
Dywedodd DEC Cymru bod miliynau o bobl ledled Gaza, Libanus a'r rhanbarth ehangach angen bwyd, lloches a gofal meddygol.
Mae DEC yn dod â 15 o elusennau cymorth at ei gilydd ar adegau o argyfwng lle mae angen dyngarol sylweddol.
Mae 14 o elusennau sy’n aelodau o DEC yn Gaza a Libanus ar hyn o bryd, gydag wyth ar y Lan Orllewinol.
Mae'r elusennau'n cynnwys Oxfam, Achub y Plant a'r Groes Goch Brydeinig.
Bydd yr apêl yn cael ei ddarlledu ar sawl sianel deledu nos Iau.
'Achubiaeth hanfodol'
Dywedodd Saleh Saeed, prif weithredwr DEC, bod cefnogaeth yr elusennau yn “achubiaeth hanfodol” i filiynau o bobl.
“Mae elusennau sy’n aelodau o DEC yn ymateb ar hyn o bryd yn Gaza, Libanus a’r Llain Orllewinol, gan ddarparu bwyd, dŵr, lloches a meddyginiaeth sy’n achub bywydau – mae’r gefnogaeth ddyngarol hon yn achubiaeth hanfodol i filiynau o bobl sydd angen cymorth dirfawr.
“Ond mae ein haelod elusennau angen mwy o arian ar frys i ateb yr angen dirfawr allan yna.”
Mae Rachael Cummings, cyfarwyddwr dyngarol Achub y Plant, newydd ddychwelyd o Gaza.
Dywedodd eu bod yn gweld “trychineb dyngarol ar lefel hollol newydd”.
“Nid oes unman diogel i blant a theuluoedd fynd,” meddai.
“Mae iechyd pobl yn dirywio ar raddfa ryfeddol. Mae cymunedau oedd yn iach yn y gorffennol yn diflannu. Rydym yn gweld cynnydd yn nifer y plant â dolur rhydd, clefyd melyn, cyflyrau anadlu – afiechydon, o’u cyfuno â newyn eithafol, all ladd plentyn mewn dyddiau.”
Ychwanegodd: “Rydym yn gwneud popeth o fewn ein gallu i ymateb i anghenion plant ac yn annog y cyhoedd yn y DU i gyfrannu at apêl DEC, fel ein bod yn gallu darparu’r cymorth hanfodol y mae plant a’u teuluoedd, sydd wedi byw trwy’r gwrthdaro creulon hwn, mor daer ei angen.”
Bydd Llywodraeth Cymru yn rhoi £100,000 i'r apêl.