Mari Grug: ‘Diolch bod y fron sydd ar ôl wedi dangos bod mwy o ganser yn y corff’
"Dwi’n falch mewn ffordd bod y fron ‘na dal ar ôl er mwyn iddyn nhw gael gwybod bod rhywbeth arall yn tyfu o fewn yn y corff."
Ar ôl cyhoeddi bod ei chanser wedi dychwelyd, mae'r cyflwynydd Mari Grug yn dweud bod peidio codi'r ddwy fron wedi caniatáu i arbenigwyr ddod o hyd i fwy o ganser yn ei chorff.
Fis Gorffennaf 2023, fe ddatgelodd Mari, sy’n wyneb a llais cyfarwydd ar raglenni Heno, Prynhawn Da a Radio Cymru bod ganddi ganser y fron.
Ychwanegodd ei bod hi wedi cael diagnosis dri mis ynghynt a’i fod ers hynny wedi lledu i’r nodau lymff a’i hafu.
Wedi tri sgan clir yn olynol ar yr afu, fe gafodd Mari sgan CT ddiwedd Awst.
"O’dd pethe yn mynd yn dda, pob canlyniad sgan yn mynd i’r cyfeiriad cywir, oedd yr afu yn neud yn ffantastig, dim byd yn tyfu ar yr afu, a o’dd popeth arall yn glir," meddai wrth Newyddion S4C.
"Ond wedyn diwedd Awst, ges i CT scan o’n i’n cael bob tri mis, a wedyn nath rwbeth ddangos lan ar y CT bod lymph node ar yr ochr arall yn edrych yn fygythiol ‘falle."
'Llorio yn syth'
A hithau ar fin dathlu ei phenblwydd yn 40 oed ac wedi trefnu cynlluniau gyda'r teulu, roedd y newyddion yn "dipyn o sioc" i Mari.
"I gael y newyddion a jest mewn cyfnod, ar fin dathlu fy mhenblwydd, cwpl o gynllunie ar y gweill i nodi’r penblwydd a jest meddwl camu ymlaen i ddegawd newydd yn bositif a meddwl reit beth am gau’r drws ar ddiwedd y 30au ond eto wedyn cael fy llorio yn syth wrth i mi groesawu fy 40au," meddai.
"Yn amlwg gyda fi, oedd y canser wedi lledu yn y lle cyntaf, o’dd e’n metastatic breast cancer felly o’n i’n gwbod o bosib bydde fe’n dod nol maes o law ond i wybod bod e wedi dod nôl mor gloi, o’dd hwnna yn dipyn o sioc."
Bydd Mari yn dechrau unwaith yn rhagor ar driniaeth cemotherapi dros y misoedd nesaf ac o bosib yn wynebu llawdriniaeth i godi y fron arall yn ddiweddarach.
Roedd Mari yn wreiddiol wedi gobeithio gallu codi'r fron yma hefyd, ond mae bellach yn ddiolchgar na chafodd hi wneud hyn.
"Byddai'n mynd ar chemo nawr ac o bosib hefyd cael yn fron arall off maes o law so gewn ni weld am hynny, ma’ fe hefyd yn dangos dou lymph node ar bwys y diaphragm yn dangos metastasis (pan y mae canser yn lledu o'r ardal wreiddiol)," meddai.
"O'dd lot o bobl a o’n i hefyd yn meddwl ‘Os fysen i ond wedi cael y fron bant, bydde hyn ddim wedi digwydd’ ond mae’n amlwg ddim achos os fysen i wedi cael y fron bant, bydde’r lymph nodes ‘na ddim wedi dangos lan ar y CT, a falle bydden i ddim yn gwybod bod ‘da fi dwy lymph node ar bwys y diagphram hefyd yn dangos canser."
Ychwanegodd: "I radde, ma’ popeth sydd wedi digwydd hyd yn hyn wedi bod yn digwydd yn y ffordd gywir felly dwi’n falch mewn ffordd bod y fron ‘na dal ar ôl er mwyn iddyn nhw gael gwybod bod rhywbeth arall yn tyfu o fewn yn y corff."
'Adnodd gwerthfawr'
Mae Mari wedi bod yn trafod ei phrofiad ers derbyn diagnosis mewn cyfres podlediad Lleisiau Cymru: 1 mewn 2 – y gyntaf yn y Gymraeg i drafod y pwnc.
"Fi’n meddwl bod rhannu fy mhrofiade i gobeithio yn helpu pobl eraill ond beth fi ‘di cael mas o fe yw sgwrsio gyda phobl eraill sydd ar yr un siwrne a fi’n credu hefyd ti’n cael dy arfogi gyda mwy o fanylion," meddai.
"Ti’n cael apwyntiad gydag arbenigwr iechyd ond yn aml ddigon, ma' lot o’r wybodaeth ‘na ti ddim yn cofio, ti ddim yn ei brosesu fe’n iawn achos ma' gymaint o wybodaeth i gymryd mewn.
'Oedran ddim yn golygu dim'
Mae angen "newid y feddylfryd" yn ymwneud â chanser y fron yn ôl Mari.
"Fi’n meddwl mai’r newid meddylfryd yw e, fi’n meddwl bod angen codi ymwybyddiaeth ynglyn â bod oedran ddim yn golygu dim," meddai.
"Falle i bobl fod yn ymwybodol o ran ma’ ‘da fi gene sy’n ddiffygiol ag o’n i ddim yn gwybod am ‘na tan bo’ fi’n cael canser felly cael y sgwrs gyda theuluoedd, falle bod gene testing yn rhywbeth sydd angen edrych mewn i yn fwy."
Ychwanegodd: "Dwi’n gwbod bod y gwasnaeth iechyd yn gweithio mor galed, ond os oes rhywbeth chi’n gallu neud, falle cael y sgyrsiau na gyda’r teulu, oes ‘na hanes teuluol fel bod pobl yn ymwybodol wedyn pam bod rhywbeth yn codi achos fi’n gwybod o brofiad bod mynd yn gynnar yn neud gymaint o wahaniaeth."
Roedd codi ymwybyddiaeth am fynd mor gyflym â phosib i'r meddyg yn un o'r prif resymau am rannu ei phrofiad yn gyhoeddus, yn ôl Mari.
"Dwi’n cofio dweud y llynedd y pwysigrwydd i fynd i’r meddyg yn gyflym a’r sioc falle ges i bod rhaid aros o gymharu â phrofiade fy mam nôl ar ddiwedd y 90au. Ti’n meddwl ma' rwbeth yn tyfu tu fewn i ti, ‘sdim amser, a hwnna fi’n credu oedd y peth o’n i’n teimlo y mwyaf pwysig ag angerddol ynglyn â i rannu," meddai.
"Jyst i ddangos dyw pethe ddim yn digwydd yn gyflym gyflym felly ma rhaid i chi fynd mor gyflym â phosib i’r meddyg er mwyn dechre y broses a wedyn cadw fynd."
'Diolch amdanyn nhw'
Mae cefnogaeth teulu a ffrindiau Mari wedi bod, ac yn parhau i fod, yn amhrisiadwy ar hyd y daith.
"Ma' adege tywyll bendant wedi bod, ond fi mor lwcus o gefnogaeth teulu a ffrindie anhygoel, ma' tri o blant bach hyfryd ‘da fi i gadw fi fynd, a ma’ fe bendant yn helpu. Diolch byth amdanyn nhw.
"Dwi’n cwrdd â gymaint o bobl amrywiol yn fy ngwaith, pob un â’i her bersonol a dwi’n math o berson sy’n cael lot o fy egni wrth bobl arall felly ma siarad gyda nhw wir yn helpu.
"Ma’r meddylfryd sydd ‘da fi, a’r ffordd fi ‘di cael fy magu, fi’n lwcus hefyd wedi cael fy amgylchynu gan y gefnogaeth a chariad o deulu a ffrindie, y gymuned Gymraeg, fi ‘di cael gymaint o gefnogaeth."
Mae modd gwrando ar bodlediad Lleisiau Cymru: 1 mewn 2 yma.