Newyddion S4C

Arestio dyn o Gaerdydd oedd ar ffo ers pedair blynedd

Calvin Parris

Mae dyn o Gaerdydd a gafodd ei arestio ar ôl bod ar ffo am bedair blynedd wedi ymddangos yn y llys.

Cafodd Calvin Parris, 34, ei ddal gan swyddogion Heddlu Portiwgal ger tref Boliqueime yn yr Algarve ar 3 Hydref.

Roedd wedi ei enwi fel bod yn un o'r bobl ar frig rhestr troseddwyr ar ffo gan yr Asiantaeth Troseddau Cenedlaethol (NCA).

Cafodd ei hebrwng yn ôl i’r DU ar 15 Hydref. Roedd Parris wedi’i gyhuddo o gynllwynio i gyflenwi cocên, ond roedd wedi diflannu ym mis Tachwedd 2020.

Ymddangosodd yn Llys Ynadon Caerdydd ddydd Mercher.

Cafodd ei gadw yn y ddalfa tan y gwrandawiad nesaf yn Llys y Goron Caerdydd ym mis Tachwedd.

'Effaith andwyol sylweddol'

Dywedodd y Ditectif Ringyll Ceri Young o Heddlu'r De: “Rydym yn falch o  ddweud bod Parris wedi’i arestio ym Mhortiwgal yn dilyn ymchwiliad ar y cyd â’r NCA a phartneriaid gorfodi’r gyfraith Ewropeaidd.

“Mae wedi’i gyhuddo o fod yr aelod olaf o grŵp troseddol sy’n ymwneud â chynllwyn cymhleth i fasnachu cyffuriau rheoledig dosbarth A i dde Cymru, gan ddefnyddio dyfeisiau cyfathrebu wedi’u hamgryptio yn gweithredu ar y platfform EncroChat.

Dywedodd Neil Keeping, rheolwr rhanbarthol rhyngwladol yr NCA: “Mae arestio Calvin Parris yn amlygu ein hymrwymiad i ddod o hyd i'r  rhai sydd wedi’u cyhuddo o droseddu difrifol a’u dychwelyd i’r DU i wynebu cyhuddiadau.

“Dylai hefyd fod yn rhybudd i'r rhai eraill sydd ar ffo – dim ots sut y byddwch yn ceisio osgoi’r gyfraith, byddwn bob amser yn dal i fyny efo chi.

“Hoffwn ddiolch i’n partneriaid yn Heddlu Portiwgal a weithiodd yn ddiflino i  ddod o hyd i Parris a'i ddal, ac i’n swyddogion am ddod ag ef yn ôl i ddalfa Heddlu'r De.”

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.