Newyddion S4C

Crwner yn pryderu am yrwyr ifanc ar ôl i bedwar foddi mewn damwain car yn Eryri

Crwner yn pryderu am yrwyr ifanc ar ôl i bedwar foddi mewn damwain car yn Eryri

Mae crwner wedi codi pryderon am yrwyr ifanc yn cludo teithwyr wedi i gwest glywed bod pedwar bachgen wedi boddi ar ôl i'r car oedden nhw'n teithio ynddo lanio ben i lawr mewn ffos yn Eryri.

Bu farw Jevon Hirst, 16, Harvey Owen, 17, Wilf Fitchett, 17, a Hugo Morris, 18, ar ddydd Mawrth, Tachwedd 21 y llynedd ar ôl i’w Ford Fiesta arian adael yr A4085 yn Llanfrothen.

Roedd y pedwar bachgen wedi teithio yno o Sir Amwythig, ac roedd y gwasanaethau brys wedi bod yn chwilio amdanyn nhw am ddeuddydd ar ôl iddyn nhw fethu a dychwelyd o daith gwersylla.

Dywedodd y crwner Kate Robertson y byddai hi'n ysgrifennu at yr Adran Drafnidiaeth i fynegi pryder y gallai damweiniau barhau i ddigwydd pan fydd "gyrwyr ifanc sydd newydd gymhwyso yn gallu cludo teithwyr."

Dywedodd Ms Robertson y byddai hi hefyd yn cyhoeddi adroddiad am safon y ffensio yn yr ardal, a gofynodd am fanylion y tirefeddianwr.

Roedd rhai o deuluoedd y rhai fu farw wedi awgrymu na fyddai'r car wedi mynd i'r ffos petai'r ffensio wedi bod o well safon. 

Clywodd y cwest bod archwiliad post-mortem ar y pedwar bachgen wedi dod i’r casgliad bod pob un ohonyn nhw wedi boddi, ac nad oedd ganddyn nhw anafiadau eraill.

Sion Griffiths, teithiwr mewn lori ailgylchu, a sylwodd ar y car mewn ffos deg troedfedd o’r ffordd, meddai wrth y cwest.

Awgrymodd Ian Thompson o Heddlu Gogledd Cymru a oedd wedi ymchwilio i'r gwrthdrawiad fod y gyrrwr, Harvey Owen, wedi bod yn teithio ychydig yn rhy gyflym ar gyfer y tro yn y ffordd.

Roedd wedi bod yn teithio tua 38mya ac nad oedd yn saff troi’r gornel ar fwy na 26mya.

'Realiti gwaethaf'

Dywedodd mam Jevon Hirst, Melanie Hirst, wrth y cwest ei fod yn caru cerdded yng nghefn gwlad ac yn “agos iawn at ei daid ac wrth ei fodd yn ymweld ag o yn Harlech”.

Ychwanegodd mam Wilfred Fitchett, Heather Sanderson, ei fod wedi gyrru neges ati yn dweud eu bod nhw wedi aros gyda thaid Jevon Hirst yn Harlech ac wedi mwynhau brecwast mawr.

“Roedd yn gwmni mor dda gyda synnwyr digrifwch da,” meddai.

“Roeddem yn ffodus i'w gael yn ein bywydau am 17 mlynedd. Rydym yn falch o fod yn deulu iddo."

Mewn datganiad dywedodd teulu Harvey Owen: “Rydym bellach yn byw yn realiti gwaethaf unrhyw riant.

“Mae'n rhaid i ni wynebu oes o alaru'r bywyd y dylai fod wedi ei fyw. Mae'r holl lawenydd wedi mynd o'n bywydau."

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.