Newyddion S4C

Ffans mwya' Pobol y Cwm yn 'edrych ymlaen at wylio am 50 mlynedd arall'

Ieuan Griffiths

Wrth i raglen Pobol y Cwm ddathlu ei hanner can mlwyddiant ddydd Mercher, mae rhai o ffans mwyaf yr opera sebon wedi dweud eu bod nhw'n “edrych ymlaen” at ddilyn hynt a helynt cymeriadau Cwmderi am o leiaf “50 mlynedd arall.” 

Fe ddechreuodd Ieuan Hywel Griffiths o Aberystwyth wylio’r rhaglen gyda’i deulu yn fachgen ifanc – a hynny wedi i’r bennod gyntaf cael ei ddarlledu ar BBC Cymru ar 16 Hydref 1974. 

Bellach yn 29 oed, mae’r opera sebon yn parhau yn agos i’w galon ac mae’n dweud ei fod wedi gwylio bron i bob pennod yn rheolaidd ers 2011. 

“Pobol y Cwm yw un o’r unig bethau cyson sy’n adlewyrchu’r iaith yn fyw ar y teledu i raddau,” meddai wrth siarad â Newyddion S4C. 

Mae’n dweud fod “cysondeb” y rhaglen yn elfen hollbwysig iddo, a’i fod yn gartref i’r iaith Cymraeg. 

“Mae pobl sydd yn dysgu yn gallu dod ato fe fel ‘tool’ i ddysgu, neu os ydy pobl wedi symud tramor maen nhw’n gallu parhau i fod yn rhan o’r iaith trwy dal i watcho," meddai.

“Sai’n meddwl bod lot o bethau eraill hirdymor yn debyg i Pobol y Cwm sydd wedi uno’r iaith."

Image
Pobol y Cwm

'Ymrwymo'

Roedd Mr Griffiths ymhlith miloedd o bobl oedd yn ymgyrchu yn erbyn toriadau i nifer rhaglenni wythnosol y gyfres yn ystod y blynyddoedd diwethaf. 

Yn ystod y blynyddoedd cynnar, dim ond un bennod o Pobol y Cwm oedd yn cael ei ddarlledu'r wythnos, ond erbyn 1988 fe gynyddodd nifer y penodau i pum gwaith yr wythnos. 

O ganlyniad i doriadau ariannol, tair pennod sy’n cael eu ddarlledu bob wythnos ar S4C. 

Dywedodd Ieuan Griffiths: “Pan o'dd sôn bod y sioe yn cael ei dynnu lawr i cwpwl o benodau yn llai ‘na beth yw ‘na, fues i’n ymladd yn fawr.” 

Image
John Hefin
John Hefin oedd cynhyrchydd gwreiddiol Pobol y Cwm

Mae bellach yn gyfrifol am ddod a ffans eraill at ei gilydd ar y cyfryngau cymdeithasol hefyd.

“Setes i grŵp lan ar gyfer ffans Pobol y Cwm ac oedd tua 3,000 o bobl wedi joino,” esboniodd. 

“Ar ôl pob pennod roeddwn ni’n trafod, yn ‘neud polls ac yn galluogi pobl i drafod. O’n ni’n gallu rhoi ein barn bob nos.” 

Image
Ymarferion cynnar Pobol y Cwm
Ymarferion cynnar Pobol y Cwm

 

'Dyw iaith ddim yn rhwystr'

Un sydd wedi troi at Pobol y Cwm er mwyn helpu iddi ddysgu ychydig o’r Gymraeg yw Chloe Esyllt Jones, 41 oed o Fangor. 

Yn wreiddiol o Gaer ond gyda theulu sy'n siarad Cymraeg, dywedodd Ms Jones ei bod ganddi “gysylltiad cryf” gyda Chymru a’r diwylliant – a bod Pobol y Cwm yn “rhan fawr” o hynny.

A hithau’n siaradwr Cymraeg newydd, dywedodd nad yw “iaith ddim yn rhwystr pan ddaw at Pobol y Cwm".

“Mae’r cymeriadau’n gryf iawn, mae ‘na chymuned gref, mae’n emosiynol, mae gallu bod yn ddoniol – dwi jyst yn meddwl fod e’n anhygoel,” meddai. 

Dywedodd Ms Jones ei bod yn gwerthfawrogi’r ffaith bod cymeriadau yn defnyddio iaith anffurfiol a sgyrsiol, a bod hynny’n apelio at ddysgwyr Cymraeg. 

Ychwanegodd ei bod yn uniaethu gyda thaith cymeriad Maya Cooper (Sophie Mensah) o Lerpwl wrth iddi ddysgu’r iaith o flaen llygaid gwylwyr. 

“Mae’n rhaglen arbennig a dwi’n meddwl y bydd yn cario 'mlaen ymhell y tu hwnt i ni i gyd," meddai. 

“Bydd Pobol y Cwm pendant dal ar y sgrin fach mewn 50 mlynedd arall."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.