Newyddion S4C

Cyhuddo dau ddyn yn dilyn 'anhrefn treisgar' ar ôl gêm bêl-droed yng Nghaerdydd

16/10/2024
Joel Collins

Mae dau ddyn wedi eu cyhuddo yn dilyn anhrefn treisgar ar ôl gêm bêl-droed yng Nghaerdydd ddydd Sadwrn.

Cafodd swyddogion eu galw i ddigwyddiad yng Nghanolfan Hamdden y Dwyrain yn ardal Llanrhymni tua 16.00 ddydd Sadwrn.

Mae un o’r dynion gafodd ei anafu yn yr ymosodiad, Joel Collins, 32, (uchod) wedi cael llawdriniaeth ar ei ben-glin ar ôl y digwyddiad.

Fe fydd Benjamin Dean, 28 oed, o Trowbridge, a Ryan Rees, 22 oed, o Llanrymni, yn ymddangos yn Llys Ynadon Caerdydd fore Mercher.

Mae Dean wedi ei gyhuddo o achosi gwir niwed chorfforol ac anhrefn treisgar.

Mae Rees wedi’i gyhuddo o achosi anhrefn treisgar, gyrru heb yswiriant a bod â chanabis yn ei feddiant.

Mae ymchiwliad yr heddlu yn parhau.

Mae’r heddlu yn annog unrhyw un sydd â gwybodaeth neu luniau o’r digwyddiad i gysylltu â nhw gan ddyfynnu’r cyfeirnod 2400340400.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.