Newyddion S4C

Cynnydd yn nifer y bobl sy’n symud o Loegr i Gymru 'am dai gyda mwy o le'

16/10/2024
Tai ar Ynys Mon

Mae cynnydd sylweddol wedi bod yn nifer y bobl sy’n symud o Loegr i Gymru, yn ôl ffigyrau newydd.

Mae ffigyrau'r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn awgrymu bod nifer y bobl sy’n gadael Lloegr i fyw yng ngweddill y DU wedi cynyddu 53% yn y flwyddyn hyd at fis Mehefin 2023.

Mudo o Loegr i Gymru a welodd y cynnydd mwyaf yn ystod y cyfnod dan sylw.

Cynyddodd mudo o Loegr i Gymru 65% rhwng Mehefin 2022 a 2023, i 17,559.

Caerdydd oedd yr awdurdod lleol a welodd y cynnydd mwyaf mewn pobl yn symud i’r ardal.

Yn yr Alban, fe wnaeth 13,900 o bobl fudo o Loegr, sef cynnydd o 11%.

Yn ôl data gan gwmni Hamptons a gyhoeddwyd yn y Sunday Telegraph, roedd 7% o’r rheini a symudodd i Gymru, y ffigwr uchaf, wedi dod o Lundain.

Roedd hynny’n awgrymu mai pobl yn chwilio am lefydd mwy fforddiadwy i fyw gyda mwy o le oedd yn gyfrifol am y cynnydd, medden nhw.

Dywedodd Aneisha Beveridge, pennaeth ymchwil yn Hamptons wrth y papur newydd eu bod nhw’n “gweld mwy o bobl yn fodlon symud pellteroedd hirach yn ddiweddar”.

“Mae pobl yn chwilio am dai gyda mwy o le. Maen nhw'n chwilio fwyfwy am ardaloedd mwy fforddiadwy.”

Llun gan Chris Curry

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.