
Rhybudd i 'gau ffenestri a drysau' wedi i lori fynd ar dân ym Mhwllheli
Mae’r gwasanaeth tân wedi rhybuddio pobl i “gau eu ffenestri a drysau” wedi i lori fynd ar dân ym Mhwllheli.
Fe aeth y lori ar dân tra oedd yn cludo nwyddau i siop yn lleol, medd llefarydd ar ran Gwasanaeth Tân Ogledd Cymru.
Dywedodd eu bod wedi cael eu galw i’r digwyddiad yn ardal Ffordd Caerdydd Isaf am 8.05 bore Mercher.

Dywedodd y gwasanaeth tân bod pedwar injan tân yn bresennol, yn ogystal â dwy uned arbenigol.
Maen nhw’n gofyn i drigolion lleol i gadw eu ffenestri a drysau ar gau.
Inline Tweet: https://twitter.com/NewyddionS4C/status/1846479122475692369
Mae Ffordd Ala/Ffordd Caerdydd wedi’i chau o achos y digwyddiad, medd Heddlu Gogledd Cymru.
Mae’r llu yn annog pobl i osgoi’r ardal.