'Dirywiad drastig' yn niogelwch carchardai Cymru
Mae “dirywiad drastig” wedi bod yn niogelwch carchardai Cymru yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, medd adroddiad newydd.
Yn ôl gwaith ymchwil gan Brifysgol Caerdydd fe welwyd cynnydd o 80% ers y llynedd yn nifer yr achosion yn ymwneud a charcharorion yn ymosod ar ei gilydd.
Mae nifer yr ymosodiadau ar aelodau staff hefyd wedi cynyddu 69%.
Fe wnaeth achosion o hunan-niweidio ymhlith carcharorion hefyd godi 53% medd adroddiad Canolfan Llywodraethiant Cymru.
Carchar y Parc
Fe ddigwyddodd y cynnydd mwyaf yn yr achosion yn ymwneud ag ymosodiadau ar staff a hunan-niweidio yng Ngharchar y Parc ym Mhen-y-bont ar Ogwr.
Yno, fe welwyd cynnydd o 109% yn yr ymosodiadau ar staff, achosion i’w wneud a hunan-niweidio wedi codi 113% ac achosion o hunan-niweidio difrifol – oedd yn golygu triniaeth feddygol yn yr ysbyty – wedi codi 190% yn 2023.
Mae llefarydd ar ran Carchar y Parc wedi dweud fod achosion o drais a hunan-niweidio bellach wedi cwympo rhwng Ebrill a Hydref eleni.
Cyffuriau
Fe wnaeth 14 o bobl farw trwy hunan-laddiad yng ngharchardai Cymru rhwng 2020 a 2023. Roedd y rhan fwyaf o'r rheiny, sef naw o bobl, wedi marw yng Ngharchar Caerdydd.
O’r 13 o farwolaethau a gafodd eu cofnodi yng ngharchardai Cymru yn y chwe mis hyd at fis Mehefin 2024, fe ddigwyddodd 12 o’r rheiny yng Ngharchar y Parc.
Y gred yw bod o leiaf pedwar o bobl wedi marw yng Ngharchar y Parc yn ystod y cyfnod hwnnw oherwydd cyffuriau.
Mae'r adroddiad hefyd yn nodi bod swyddogion wedi dod ar draws cyffuriau yn fwy aml yn y carchar ym Mhen-y-bont, cynnydd o 46% yn ystod 2023/24.
Roedd cynnydd mawr hefyd yn yr ‘offer cyffuriau’ oedd wedi’i ganfod yno yn ystod yr un cyfnod.