
Gemwaith Shirley Bassey yn gwerthu am £1.8m
Mae casgliad o emwaith y Fonesig Shirley Bassey wedi cael ei werthu am gyfanswm o 2.2 miliwn ewro (£1.8m), gan dorri record y byd.
Cafodd oriawr aur Cartier Baignoire y gantores 87 oed ei gwerthu am 66,000 ewro (£54,976) gan dorri record y byd.
Fe werthwyd modrwy diemwnt Van Cleef ac Arpels o’r 1960au am 48,000 ewro (£39,995). Anrheg oedd hon i'r Fonesig Shirley gan y cerddor byd enwog Syr Elton John.
Cafodd tlws diemwnt o tua 1905 hefyd ei werthu am 162,000 ewro (£134,991).
Y casgliad
Roedd y casgliad yn rhan o arwerthiant gemwaith Sotheby’s a gafodd ei gynnal ym Mharis ar 10 Hydref.
Fe aeth yr elw tuag at elusennau roedd y Fonesig Shirley wedi noddi.



'Caru gemwaith'
Y Fonesig Shirley Bassey oedd y cyntaf o Gymru i gyrraedd brig y siartiau yn 1959 gyda’i chân, As I Love You.
Fe ddechreuodd gasglu gemwaith cyn iddi gychwyn ar ei gyrfa yn y byd cerddoriaeth.
Dywedodd bod ei chariad tuag at emwaith wedi dylanwadu ar ei phenderfyniad i ganu’r gân, Diamonds are Forever.
“Fe wnes i gytuno i’w chanu oherwydd roedd ‘na wirionedd ynddi o ran sut oeddwn i’n teimlo am ddiemwntau adeg hynny yn ogystal â heddiw,” meddai cyn yr ocsiwn.