Cymorth i Farw: Beth sydd yn y bil?
Bydd y Bil Cymorth i Farw yn cael ei gyflwyno yn ffurfiol yn Nhŷ'r Cyffredin ddydd Mercher.
Wedi hynny bydd dadl yn cael ei chynnal fis nesaf cyn y bleidlais gyntaf ers bron ddegawd ar y pwnc dadleuol sy'n hollti barn.
– Beth yw cymorth i farw ?
Yn ôl ymgyrchwyr sydd eisiau gweld newid, mae cymorth i farw yn caniatáu i berson sydd â chyflwr nad oes modd gwella ohono i ddewis pryd y maent yn dymuno marw, os yw eu dioddefaint yn annioddefol.
Maen nhw'n dadlau bod gan bobl sy'n marw yr hawl i ddewis amodau eu marwolaeth.
Ond mae grwpiau eraill yn ymgyrchu yn erbyn hynny gan ddadlau mai dynladdiad gyda chymorth yw hynny. Maen nhw o'r farn y dylid rhoi'r pwyslais ar hybu mwy o gymorth diwedd oes, yn hytrach na newid unrhyw gyfraith.
– Beth yw'r gyfraith bresennol ?
Mae cynorthwyo rhywun i farw wedi ei wahardd yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon, gydag uchafswm o 14 blynedd mewn carchar.
Dyw rhoi cymorth i farw ddim yn drosedd swyddogol yn yr Alban, ond mae cynorthwyo rhywun i farw yn golygu y gallai person gael ei gyhuddo o lofruddiaeth neu droseddau eraill.
– Beth sy'n digwydd yn San Steffan?
Dywedodd yr Arweinydd Llafur Syr Keir Starmer ei fod wedi "ymrwymo"i ganiatáu pleidlais ar gyfreithloni cymorth i farw, petai ei blaid yn ennill yr Etholiad Cyffredinol. Bellach gyda Llafur yn llywodraethu mae un o'i aelodau seneddol ei hun wedi cyflwyno'r bil.
Ddydd Mercher, bydd Kim Leadbeater yn cyflwyno ei bil er mwyn rhoi dewis i bobol sy'n ddifrifol wael ar y camau nesaf.
Mae disgwyl i ddadl a'r bleidlais gyntaf gael eu cynnal ar 29 Tachwedd.
Mae'r bil yn berthnasol yng Nghymru a Lloegr yn unig.