Angen cynllun i sicrhau bod 'diwygiadau Tŷ’r Arglwyddi yn cael eu cyflawni'
15/10/2024
Angen cynllun i sicrhau bod 'diwygiadau Tŷ’r Arglwyddi yn cael eu cyflawni'
Mae angen cynllun i sicrhau bod diwygiadau i Dŷ’r Arglwyddi yn cael eu cyflawni, yn ol Cyn- Brif Weinidog Cymru Carwyn Jones.
Fe ddaw wrth i Aelodau Seneddol drafod mesur y Llywodraeth Lafur i gael gwared â'r 92 aelod etifeddol yn Nhŷ’r Arglwyddi sydd wedi etifeddu eu lle yn y siambr drwy eu teulu.
Yn ôl Llywodraeth Y Deyrnas Unedig, maen nhw wedi ymrwymo i ddiwygio, trwy gynnwys oed ymddeol gofynnol aelodau, ynghyd a sicrhau cynrychiolaeth decach o wledydd a rhanbarthau’r Deyrnas Unedig.
“Dyw e ddim yn ddigon i weud bo ni’n mynd i ddiwygio. Mae’n hollbwysig fod yna gynllun ar gael sydd yn rhoi’r llwybr tuag y system ddiwygio hynny. Dyw hynny ddim yna eto,” meddai Carwyn Jones, Cyn-Brif Weinidog Cymru, oedd yn aelod o gomisiwn a fu'n ystyried dyfodol Tŷ'r Arglwyddi.
“Mae ‘na argymhellion wedi eu gwneud gan Gordon Brown a’r Comisiwn o ni’n rhan ohono ond mae’n bwysig nawr i lenwi mewn y manylion fel bod pobl yn gwybod pa fath o ddiwygio fydd yn digwydd.
Mae dros 800 o aelodau ar y meinciau coch fel cyn-wleidyddion, arbenigwyr maes, esgobion a rhai sydd wedi eu dewis gan brif weinidogion.
Mae bob un heb eu hethol yn uniongyrchol gan y cyhoedd ac â sedd hyd ddiwedd eu hoes.
Ym 1990, fe gyflwynodd y Llywodraeth Lafur newydd ddiwygiadau sylweddol gyda’r Prif Weinidog ar y pryd, Tony Blair yn cwtogi nifer yr arglwyddi etifeddol - arglwyddi sydd wedi ennill eu lle oherwydd eu teulu i 92.
Chwarter canrif yn ddiweddarach, mae’r Prif Weinidog newydd yn bwriadu mynd gam ymhellach a chael gwared â'r rhai sy'n weddill.
Addewid Llafur yw cyflwyno diwygiadau i Dŷ’r Arglwyddi o fewn 100 niwrnod cyntaf y llywodraeth newydd gyda mesur eisoes wedi ei gyflwyno i’r Senedd ar 5 Medi eleni.
'Angen amserlen'
Ond yn ôl y Farwnes Christine Humphreys, mae angen arweiniad gan y llywodraeth.
“Y broblem ydy, ry ni weid bod yma o’r blaen dros y blynyddoedd. Deddfau yn cael eu cynnig a wedyn mae jyst yn dod i ben ac yn mynd i ffwrdd. Mae’n bwysig ac mae angen amserlen”
Prif waith y Tŷ yw adolygu deddfwriaeth sy’n cael ei phasio gan Dŷ’r Cyffredin gydag aelodau yn gallu hawlio taliad o £361 y dydd am fod yn bresennol.
Ond mae aelod ieuenga Tŷ 'r Arglwyddi sy'n 28 oed, y Farwnes Carmen Smith eisiau cael gwared â'r sefydliad yn llwyr, gan ychwanegu bod addewidion yn y maniffesto sydd heb eu cyflwyno yn y mesur newydd.
“Pan fi’n edrych ar addewidion maniffesto Llafur ar ddiwygio, dydy’r holl bethau maen nhw wedi dweud am y maniffesto ddim yn y bil hwn. Pethau fel oedran ymddeol neu newid y broses benodi”
Ond mae’n annhebygol y gwelwn ni ddiwygiadau Llafur yn dwy ffrwyth yn ol un arbenigwr gwleidyddol.
“Mae Llafur wedi addo dro, ar ôl tro eu bod yn mynd i ddiwygio Tŷ’r Arglwyddi. Maen un hen gri y mudiad Llafur. Mae nhw’n gwneud rhai pethau ond ddim llawer o bethau.
“Fydden i’n dychmygu bod y darged o 90 be bynnag ydy o sydd yno oherwydd damwain genedigaethol, mae’n bosib iawn y gwnawn nhw ddileu eu rôl nhw mewn rhyw ffordd neu’i gilydd.
“Ond fyswn i ddim yn dal fy ngwynt am unrhyw newid pellgyrhaeddol na hynny.”
Maae’r Llywodraeth yn dweud eu bod wedi ymrwymo i ddiwygio Ty’r Arglwyddi gan gynnwys oed ymddeol, ac i gynllun hir-dymor o ddiwygio’r siambr a fyddai’n gynrychiolaeth decach o wledydd a rhanbarthau’r Deyrnas Unedig.
Mae disgwyl i'r mesur gael ei gyflwyno yn Nhŷ'r Arglwyddi cyn y Nadolig, derbyn ei ail ddarlleniad yn gynnar yn y flwyddyn newydd a chlirio pob cam seneddol cyn y Pasg.