Mari Grug yn cyhoeddi bod y canser wedi dychwelyd
Mari Grug yn cyhoeddi bod y canser wedi dychwelyd
Mae'r cyflwynydd Mari Grug wedi cyhoeddi bod ganddi ganser unwaith yn rhagor a'i bod hi ar fin cael triniaeth eto.
Mewn neges ar gamera, dywedodd: "Neges fach s'da fi i ddweud wrtho chi na fyddai gyda chi gymaint dros y misoedd nesa.
"Yn anffodus mae'r canser wedi dychwelyd, a dw i ar fin dechrau ar gyfnod o gemotherapi, ond fel o'r blaen, 'dw i yn gobeithio gallu cario 'mlaen i weithio 'chydig achos nath e helpu fi gymaint tro diwethaf.
"Licen i ddiolch i gyd am eich cefnogaeth dros y flwyddyn a hanner diwethaf a dwi'n gwybod y byddwch chi gyda fi 'to bob cam o'r ffordd, felly amdani!"
Fis Gorffennaf 2023, datgelodd y cyflwynydd o Fynachlog-ddu, Sir Benfro sy’n wyneb a llais cyfarwydd ar raglenni Heno, Prynhawn Da a Radio Cymru bod ganddi ganser y fron.
Ychwanegodd ei bod hi wedi cael diagnosis dri mis ynghynt a’i fod ers hynny wedi lledu i’r nodau lymff a’i hafu.
Cafodd Mari Grug driniaethau ar gyfer y canser ac mae hi wedi siarad yn gyhoeddus yn gyson am ei phrofiadau, gan annog eraill i gadw golwg ar eu hiechyd.
'Amdani'
Wrth barhau i weithio'n rheolaidd, ym mis Mai 2024 bu'n trafod ei stori ers derbyn diagnosis canser mewn cyfres podlediad gan y BBC Lleisiau Cymru: 1 mewn 2, – y gyntaf yn y Gymraeg i drafod y pwnc.
Ac ym mhennod gyntaf y podlediad datgelodd y "gorfoledd" ar ôl derbyn dau sgan clir o ganser ar yr afu yn olynol.
Mae hi wedi holi nifer sydd â chanser ac arbenigwyr meddygol yn y gyfres.
Cafodd ei mam ddiagnosis o ganser y fron chwarter canrif yn ôl, ac mewn cyfweliad dirdynnol yn un o benodau'r podlediad, mae'r ddwy yn trafod eu profiadau a'u teimladau wrth rannu'r newyddion ag aelodau o'u teulu.
Yn 40 oed ac yn fam i dri o blant, daeth y diagnosis o ganser fel ergyd, meddai Mari ar y pryd.
Wrth ddechrau ar gyfnod arall o gemotherapi, mae'r cyflwynydd wedi diolch am yr holl gefnogaeth iddi gan ddweud ei bod yn barod "amdani" a'i bod yn gobeithio y gall gario ymlaen i weithio ychydig.
Ar raglen Heno nos Fawrth, dywedodd ei chyd-gyflwynwyr eu bod yn meddwl amdani.
Dywedodd Owain Tudur-Jones" Mari 'da ni'n gwybod yn iawn pa mor gryf wyt ti, wyt ti yn barod wedi helpu gymaint o bobl eraill.
" ‘Da ni gyd yn fa’ma ar Heno yn gefn i chdi ac mi fyddan ni’n meddwl lot amdana chdi dros y cyfnod nesa ‘ma ac yn edrych ymlaen yn fawr iawn i weld chdi nôl yn y stiwdio a hefyd ar Prynhawn Da."