Cynlluniau i dorri nôl ar drafnidiaeth gyhoeddus yn 'bryderus'
Cynlluniau i dorri nôl ar drafnidiaeth gyhoeddus yn 'bryderus'
Addysg bellach. I nifer o'r disgyblion yng Ngholeg y Cymoedd dyma lle maen nhw'n magu hyder, dysgu sgiliau newydd a chael cymwysterau i ffynnu mewn bywyd.
Mae 42% o'r disgyblion yma yn dod o gartrefi ag incwm llai na £23,000. Mae cynghorau lleol yn talu costau trafnidiaeth gyhoeddus rhai disgyblion i gyrraedd y campws yma yn Nantgarw.
Mae cynlluniau i dorri nôl ar bwy sy'n gymwys yn y dyfodol yn pryderu rhai disgyblion.
"Os mae rhywun yn meddwl dod i'r coleg maen nhw'n gweld £20 y dydd. Mae'n ddrud a bydd pobl ddim yn dod.
"Wi'n gweithio dau swydd ar y funud a dal ddim yn gallu fforddio pethe."
Mae'r toriadau gam yn rhy bell yn ôl arweinwyr y Coleg.
"Mae gynnon ni bobl sydd ddim mewn addysg, cyflogaeth neu gwrs mae hynna yr uchaf yn y DU yma yng Nghymru.
"Fydd y penderfyniad yma yn gyrru hynna'n uwch. Fydd y bobl ifanc methu cael yr hyfforddiant i fynd i gyflogaeth."
Llywodraeth leol sy'n gyfrifol am nifer o'n gwasanaethau cyhoeddus. Mae rhai gwasanaethau yn statudol, mae'n ofynnol ateb y galw amdanynt.
Mae eraill, fel trafnidiaeth i golegau, yn ychwanegol. Mae'r pwysau ariannol ar gynghorau yn cynyddu gyda ffigurau a gasglwyd gan y BBC yn awgrymu bydd y bwlch ariannol mewn cyllidebau cynghorau lleol Cymru erbyn 26-27 yn £540 miliwn.
Mae'r sefyllfa yn anghynaladwy yn ôl Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.
Yn ôl Arweinydd cyngor mwyaf Cymru, mae ffrwydriad wedi bod yn y galw.
"Os ystyriwch ein parciau, llyfrgelloedd, canolfannau hamdden allwn ni gau'r rheiny i gyd fel rhan o'r gyllideb flwyddyn nesa a fyddwn ni'n dal angen llenwi gap.
"Os ni ddim yn dychwelyd i lymder, mae'n rhaid ariannu cynghorau lleol i ateb y galw am wasanaethau cymdeithasol."
Mae llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru yn dweud ei fod yn cydnabod y pwysau ar lywodraeth leol ac yn gwrdd yn gyson i drafod heriau wrth baratoi eu cyllideb.
Mae Llywodraeth Prydain yn deud mai cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru yw ariannu cynghorau ond byddan nhw'n cydweithio i gael yr ariannu gorau posib i awdurdodau lleol yng Nghymru.
Mewn llai na thair wythnos bydd y Canghellor Rachel Reeves ar ei thraed yn Nhŷ'r Cyffredin yn gosod ei chynlluniau ar gyfer arian cyhoeddus yn y gyllideb.
Heb fwy o arian, bydd ein gwasanaethau cyhoeddus yn dioddef meddai'r cynghorau.