Sêl bendith i barhau gyda gwaith adeiladu 500 o fythynnod gwyliau ym Mharc Arfordirol Penrhos
Sêl bendith i barhau gyda gwaith adeiladu 500 o fythynnod gwyliau ym Mharc Arfordirol Penrhos
Parc Arfordirol Penrhos. A'r safle yn agos iawn at galon llawer yn ardal Caergybi fel lle i fynd am dro ym myd natur.
Nôl yn 2016, cafodd Land and Lakes ganiatâd cynllunio amlinello i godi 500 o fythynnod gwyliau gyda'r gobaith o ddatblygu ar ryw 200 erw o'r safle.
Mae gwrthwynebiad chwyrn i'r cynllun gan rai gydag ofnau y byddai llawer o goed yn cael eu torri.
Roedd grŵp Achub Penrhos wedi dadlau yn yr Uchel Lys bod prinder datblygu ar y safle yn golygu bod y cais cynllunio wedi dyddio.
Heddiw, mae barnwr wedi rhoi sêl bendith i'r gwaith barhau.
Beth ydy'r farn ar Ynys Môn?
"Mewn un ffordd bydd 'na lot fwy o swyddi'n dod i'r ynys. Ar yr ochr arall mae gen i hogan fach a 'swn i'n licio dod a hi yma."
"The Senedd want to build or plant trees .and they want to chop them down here. A lot of people use this."
"Dw i 'di dod am dro ers blynyddoedd yn fan'ma. Dw i'm isio pobl neud petha gwahanol iddo fo ond mae'n neis cael pobl i ddod i fewn i Gaergybi hefyd."
Mynnu mae Land and Lakes bod y gwaith maen nhw wedi'i wneud wedi cadw'r caniatâd cynllunio yn fyw. Mae'r datblygwyr yn cyfaddef na fydd unrhyw beth sylweddol yn digwydd tan bydd yr hinsawdd economaidd yn gwella.
Am y tro, bydd hi'n parhau'n dawel ym Mhenros.