Rhybudd melyn am law trwm i'r rhan helaeth o Gymru
15/10/2024
Mae rhybudd melyn am law trwm wedi ei gyhoeddi ar gyfer y rhan helaeth o Gymru nos Fawrth.
Dywedodd y Swyddfa Dywydd y bydd y rhybudd mewn grym rhwng 18.00 nos Fawrth a 12.00 dydd Mercher.
Mae'n golygu bod llifogydd yn debygol a gallai effeithio ar wasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus a theithiau mewn ceir.
Mae disgwyl i nifer o ardaloedd weld rhwng 10 a 20mm o law yn disgyn.
Ond fe allai rhai rhannau o dde Cymru weld rhwng 50 a 80mm o law yn disgyn dros gyfnod o chwe awr.
Mae stormydd o daranau a mellt hefyd yn bosib yn ne'r wlad.
Mae'r rhybudd ar gyfer 20 o siroedd: