Anaf 'newid bywyd' i chwaraewr pêl-droed wedi ymosodiad

15/10/2024
Joel Collins, Avenue Hotspur

Mae chwaraewr pêl-droed o Gymru wedi dioddef “anaf a fydd yn newid ei fywyd” ar ôl i’w ben-glin gael ei dorri mewn ymosodiad wedi gêm gan grŵp oedd yn cario arfau.

Mae Joel Collins, 32, yn cael llawdriniaeth ar ôl yr ymosodiad yn dilyn gêm yng Nghanolfan Hamdden y Dwyrain yn Llanrhymni, Caerdydd, ddydd Sadwrn.

Dywedodd Heddlu'r De eu bod nhw'n ymchwilio i ddigwyddiad lle cafodd nifer o bobl eu hanafu gan bobl yn cario arfau ac yn gwisgo gorchuddion wyneb.

Roedd tîm Mr Collins, Avenue Hotspur FC – sydd wedi’i leoli yn Nhrelái – newydd golli gêm gynghrair 3-1 i Lanrhymni Athletic cyn i’r trais ddechrau.

Dywedodd y rhai oedd yn gwylio'r gêm wrth y BBC bod grŵp wedi ymosod ar rai o chwaraewyr Avenue Hotspur ar ôl iddyn nhw adael yr ystafell newid, gan ddefnyddio batiau pêl fas ac arfau eraill.

'Brawychus'

Fe gyhoeddodd tîm Mr Collins ddatganiad ar X yn condemnio’r trais.

“Mae’r digwyddiad ysgytwol hwn, pan ymosodwyd yn dreisgar ar sawl chwaraewr wrth iddyn nhw adael yr ystafelloedd newid, yn gwbl annerbyniol ac roedd yn brofiad trallodus a brawychus iawn i bawb dan sylw,” medden nhw.

“Rydym yn cydweithredu’n llawn â’r heddlu a Chymdeithas Bêl-droed De Cymru yn eu hymchwiliad, ac ein prif [nod] ar hyn o bryd yw canolbwyntio ar gefnogi’r rhai sydd wedi cael eu heffeithio.

“Rydym yn falch o adrodd bod Joel Collins mewn hwyliau da a’i fod ar hyn o bryd yn cael llawdriniaeth ar ei ben-glin sydd wedi torri.”

Fe gafodd yr heddlu eu eu galw i’r digwyddiad toc wedi 16.00 ddydd Sadwrn.

Dywedodd y llu fod sawl ymosodiad, gan gynnwys un ar ddyn 32 oed o Drelái oedd wedi dioddef anaf a fydd yn newid ei fywyd.

Image
Joel Collins
Mae Joel Collins yn cael llawdriniaeth ar ei ben-glin yn yr ysbyty 

Dywedodd y Ditectif Arolygydd Daniel Todd o Heddlu'r De: “Roedd lefel y trais yn warthus ac ni fydd yn cael ei oddef.

“Mae’r digwyddiad hwn yn ddealladwy wedi syfrdanu’r gymuned, ac mae’n rhaid ei fod wedi bod yn frawychus iawn i bawb dan sylw.

“Rydym yn ddiolchgar am y wybodaeth rydym wedi ei dderbyn hyd yn hyn, ac rydym yn apelio ar unrhyw dystion i ddod ymlaen.”

Mewn datganiad ar X, dywedodd Llanrhymni Athletic eu bod yn “condemnio'r trais”.

“Yn gyntaf hoffai Llanrhymni Athletic ddymuno gwellhad buan i unrhyw un sydd wedi eu heffeithio,” medden nhw.

“Roedden ni yma ar gyfer pêl-droed a ddylai neb byth orfod poeni a fyddan nhw’n gallu mynd i weithio’r diwrnod wedyn yn dilyn gêm o bêl-droed.

“Hyd y gŵyr y clwb nid oedd unrhyw chwaraewyr na staff hyfforddi yn gysylltiedig â’r digwyddiad hwn a phe bai unrhyw wybodaeth yn gwrth-ddweud hyn, byddwn yn delio â nhw yn unol â hynny.”

Mae'r heddlu wedi gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad i gysylltu.

 
 
 
 
 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.