Mwy o gyhuddiadau camdrin rhywiol yn erbyn Sean Combs
Mae'r rapiwr Sean Combs yn wynebu cyhuddiadau newydd o dreisio, camdriniaeth ryw, ac ymosodiad rhyw.
Daw'r cyhuddiadau gan ddwy fenyw a phedwar o ddynion. Maent yn dyddio o'r cyfnod 1995 tan 2021. Mae un o'r dynion yn honni ei fod yn 16 oed ar y pryd pan gafodd ei gamdrin.
Dywedodd y dyn ei fod yn bresennol yn un o bartïon enwog Mr Combs pan gafodd ei aflonyddu yn 16 oed. Roedd sgwrs wedi digwydd rhyngddo ef a'r rapiwr yn ystod yr aflonyddu gyda Sean Combs yn dweud, "Wyt ti ddim eisiau torri trwodd yn y byd yma?"
Mae'r cyfreithiwr Tony Buzbee, sydd yn gweithredu ar ran yr unigolion, yn dweud ei fod yn cynrychioli mwy na 100 o bobl sydd yn bwriadu mynd i lys sifil i hawlio iawndal gan Mr Combs.
Mae'n dweud bod rhai o'r dioddefwyr honedig yn blant ar y pryd.
Mae disgwyl i'r achos troseddol yn erbyn Sean Combs, sydd hefyd yn cael ei adnabod fel P Diddy neu Puff Daddy, ddechrau mis Mai flwyddyn nesaf.
Mae wedi ei gyhuddo o fasnachu ar gyfer rhyw a racetirio.
Mae'r rapiwr yn dweud ei fod yn ddieuog o'r holl gyhuddiadau yn ei erbyn a'u bod yn "enllibus".