Cymeradwyo cynllun 'dadleuol' i gynyddu costau parcio yng Ngwynedd
Fe fydd costau i barcio yng Ngwynedd yn cynyddu hyd at 40% yn sgil "cynlluniau arbed arian" y cyngor.
Mewn cyfarfod o gabinet Cyngor Gwynedd ddydd Mawrth, cafodd dau gynllun arbed arian ar gyfer 2023/24 a dau ar gyfer 2024/25 eu cymeradwyo.
Maent yn cynnwys cynnydd yn y gost i barcio ym Mhen y Gwryd yn Eryri, gan godi o £2 am hanner diwrnod a £4 am ddiwrnod llawn i £4 am 6 awr ac £8 am 12 awr.
Dywedodd Prif Weithredwr y Cyngor, Dafydd Gibbard, ei bod yn "sefyllfa ddigalon" ond bod yr awdurdod wedi ei orfodi i gynyddu ffioedd y bwlch ariannol y maen yn ei wynebu.
“Allwn ni ddim cuddio’r ffaith mai’r sefyllfa ariannol sydd yn gwthio ni tuag at nifer o benderfyniadau sydd yn yr adroddiad yma.
“Mi fyddwch chi’n gorfod gwneud sawl penderfyniad arall tebyg i hyn dros y misoedd i ddod wrth osod eich cyllideb chi flwyddyn nesa.
"Does ‘na ddim penderfyniadau hawdd ar ôl bellach ac mae edrych ar feysydd fel codi incwm yn golygu bo’ ni’n gallu gwarchod rhag torri yn rhywle arall. Mae’n sefyllfa ddigalon, sefyllfa drist."
Dywedodd arweinydd y cyngor, y Cynghorydd Dyfrig Siencyn: "Mae o’n beth eithaf sensitif, mae’n effeithio ar ein trigolion ni yn uniongyrchol, ond mae’r neges yn glir – ‘da ni ddim yn cael digon o arian i gynnal ein gwasanaethau felly mae ‘na ryw dâl am hynny yn y pen draw.”
'Dadleuol'
Yn ôl adroddiad gan y cyngor roedd yr un ffioedd wedi bodoli yn y lleoliad parcio poblogaidd “ers blynyddoedd” ac roedd yn “rhesymol ac amserol” i'w cynyddu.
Ymhlith y newidiadau i ffioedd y flwyddyn 2023/24, fe fydd pris y tocyn parcio blynyddol yn cynyddu o £140 i £145 y flwyddyn, a thocyn parcio lleol o £70 i £75 y flwyddyn.
Cafodd dau gynllun arall ar gyfer 2024/25 hefyd eu cymeradwyo.
Fe fydd oriau gorfodi meysydd parcio arhosiad byr yn ymestyn o 10.00-16.30 i 09.00-17.00, tra bod strwythurau ffioedd arhosiad hir hefyd yn cael eu haddasu.
Mae'r gwasanaeth parcio hefyd yn ceisio cael cytundeb ar gyfer cynnydd o 40% yn yr holl ffioedd parcio.
Maent yn dweud y byddai gwneud hyn yn “mynd i’r afael â diffyg sylweddol yn y cyllidebau”.
Yn ôl yr adroddiad, bwriad y cyngor fyddai “i fwrw ymlaen â’r paratoadau er mwyn gweithredu’r holl newidiadau o Ebrill 1, 2025”.