Llo gwyllt lleiaf y byd yn cael ei eni yng Nghaer
Mae Sŵ Caer wedi llwyddo i ffilmio’r foment “hudolus” y cafodd llo prin ei eni.
Mae'n bosib mai dyma'r llo lleiaf yn y byd.
Cafodd Kasimbar, sef llo brid anoa, ei eni ar ôl i'w fam fod yn feichiog am 10 mis.
Mae’n debygol mai’r anoa yw’r gwartheg gwyllt lleiaf yn y byd.
Y gred yw mai dyma'r fideo cyntaf erioed i ddangos anoa yn rhoi genedigaeth.
Mae’r fideo yn dangos Kasimbar yn codi a chymryd ei gamau cyntaf funudau ar ôl cael ei eni.
Dywedodd Callum Garner o’r sŵ bod hi'n “fraint” cael rhannu’r cynnwys fideo gyda'r cyhoedd.
Ei obaith yw y bydd y delweddau'n helpu gwyddonwyr i ddeall yr anifail yn well.
“Ychydig iawn o bobl, os unrhyw un, sydd wedi gweld genedigaeth anoa.
“Maen nhw’n hynod o swil… felly mae cael gweld llo yn cael ei eni, ac yna gweld yr eiliadau hudolus rhwng y fam a’i baban, yn arbennig.”
Mae'r anoa yn dod yn wreiddiol o Ynys Sulawesi yn Indonesia ac maent ar restr yr Undeb Rhyngwladol dros Gadwraeth Natur (IUCN) fel anifail prin sydd mewn perygl o ddiflannu.
Dim ond 2,500 o’r gwartheg sydd ar ôl yn y gwyllt. Mae Sŵ Caer ymhlith 50 o sefydliadau eraill sydd yn ceisio gwarchod yr anifeiliaid.
Lluniau: Sŵ Caer/PA Wire