Harry Wilson yn rhwydo wrth i Gymru drechu Montenegro
Gôl gan Harry Wilson oedd y gwahaniaeth wrth i Gymru sicrhau buddugoliaeth haeddiannol o gôl i ddim dros Montenegro yng Nghynghrair Cenhedloedd UEFA nos Lun.
Wedi pedwar gêm dan arweiniad Craig Bellamy, mae'r tîm wedi llwyddo i ennill dwywaith a chael dwy gêm gyfartal - gan olygu mai ef yw'r rheolwr gyntaf i Gymru i beidio â cholli yn ei bedwar gêm gyntaf.
Roedd Bellamy wedi gwneud saith newid i’w dîm ers y gêm gyfartal 2-2 yng Ngwlad yr Iâ nos Wener, gyda Mark Harris yn cychwyn gêm dros ei wlad am y tro cyntaf.
Gyda sŵn gan y Wal Goch yn atseinio yn y stadiwm, fe ddechreuodd Cymru ar y droed flaen gyda Harry Wilson, David Brooks a Neco Williams yn creu problemau enbyd i’r ymwelwyr.
Er i’r pwysau a’r patrymau taclus greu cyfleoedd da i Wilson, Brooks, Wes Burns a Liam Cullen, doedd Cymru ddim yn gallu canfod y gôl haeddiannol.
Ond wedi i Wilson gael ei lorio yn y cwrt cosbi, daeth y cyfle i wneud hynny gyda chic o’r smotyn; ac fe wnaeth y gŵr o Gorwen lwyddo i ganfod y rhwyd o 12 llathen, i roi’r Cymry ar y blaen wedi 36 munud.
Ail hanner
Unwaith eto wedi’r egwyl, fel y gwelwyd mewn gemau oddi cartref yn Montenegro a Gwlad yr Iâ, roedd Cymru yn ei chael hi’n anodd rheoli’r gêm yn yr un modd.
Gyda Montengro yn ennill hyder a fwyfwy o feddiant, fe wnaeth yr eilydd Andrija Radulović grymanu ergyd hyfryd yn erbyn y trawst o du allan y cwrt cosbi.
Inline Tweet: https://twitter.com/sgorio/status/1845908712801681712
Ar yr awr daeth foment gofiadwy wrth i Joe Allen ddod ymlaen yn lle Brooks, yn ei ymddangosiad cyntaf ers dychwelyd o’i ymddeoliad rhyngwladol.
Fe wnaeth ei gyd-eilyddion Sorba Thomas a Nathan Broadhead fygwth ychwanegu at fantais Cymru gyda chyfleodd, tra bod Nikola Krstovic wedi penio dros y trawst pen arall y cae i Montenegro.
Mae'r fuddugoliaeth yn gadael Cymru yn yr ail safle yng ngrŵp B4 ar wyth pwynt, dau bwynt tu ôl i'r arweinwyr Twrci.
Bydd y Cochion yn gorffen eu hymgyrch Cynghrair Cenhedloedd gyda dwy gêm fis nesaf, oddi cartref yn erbyn Twrci a gêm gartref yn erbyn Gwlad yr Iâ.
Llun: Cymdeithas Bêl-droed Cymru