Newyddion S4C

Pryder am gau uned mân anafiadau un o ysbytai Bwrdd Iechyd Hywel Dda

14/10/2024

Pryder am gau uned mân anafiadau un o ysbytai Bwrdd Iechyd Hywel Dda

"Save the MIU, save the MIU."
 
Ddydd a nos, mae'r protestwyr yma'n gwersylla y tu allan i Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli.
 
Yn eu plith, un gŵr sy'n ymwybodol iawn o bwysigrwydd yr Uned Mân Anafiadau.
 
"Chwefror eleni, dois a'r wraig i mewn i'r Minor Injury Unit am naw y nos.
 
"Oedd sepsis 'da hi.
 
"Heb iddyn nhw weld mai sepsis oedd e, byddwn i 'di colli hi."
 
Fis diwetha, na'th Bwrdd Iechyd Hywel Dda gyhoeddi y bydd yr uned yn cau dros nos o fis Tachwedd am chwe mis.
 
Ond mae'r protestwyr yma'n mynnu bod rhaid ail-ystyried.
 
"Fi'n moyn cadw hwn ar agor achos bod pobl yn gorfod teithio i Morriston neu Glangwili.
 
"Os 'sdim ceir 'da nhw a bod chi'n gofyn am ambiwlans bydd yn cymryd oriau."
 
Yn ôl y Bwrdd Iechyd, mae'n rhaid cwtogi ar oriau agor yr uned oherwydd heriau staffio.
 
Mae hynny, medden nhw, yn peryglu diogelwch cleifion a lles staff.
 
Gwnaeth adroddiad ar wasanaethau'r Bwrdd Iechyd ddod i'r casgliad rhwng Chwefror a Gorffennaf eleni bod 42 enghraifft o'r gwasanaeth dros nos yn cael ei redeg heb feddyg.
 
Roedd y gwasanaeth yn cael ei redeg gan staff nyrsio.
 
Ychwanegodd yr adroddiad, er bod gan y staff y sgiliau oedd angen nid oeddent yn gallu delio a nifer o'r cleifion mwyaf sâl.
 
"Dyna un o'r problemau sy'n gwneud pobl yn grac ar draws y dref a'r ardal wledig tu fas Llanelli.
 
"Y ffaith bod y Bwrdd Iechyd wedi penderfynu gwneud hyn heb ymgynghoriad."
 
Mewn datganiad, fe ddywedodd arweinydd clinigol Uned Man Anafiadau'r Ysbyty fod y Bwrdd wedi ceisio recriwtio mwy o feddygon teulu i weithio dros nos yn yr uned.
 
Ond hyd yma, mae wedi bod yn aflwyddiannus.
 
Ychwanegodd y bydd yr Uned Asesu Meddygol Aciwt yn dal i ddarparu triniaethau bob awr o'r dydd i gleifion a chyflyrau meddygol brys.
 
Y penderfyniad gorau i staff a chleifion yn ôl y Bwrdd Iechyd ond mae'r protestwyr yma'n anghytuno.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.