Trin 'fel gwartheg': Cysylltiad Nathan Brew â'r fasnach gaethwasiaeth
Mae’r cyn chwaraewr rygbi rhyngwladol Nathan Brew wedi cael “agoriad llygaid” ar ôl dysgu am hanes ei gyndeidiau yn y fasnach gaethwasiaeth.
Roedd ei hen, hen gyndaid, Richard Brew yn “un o’r masnachwyr fwyaf ei amser". Fe symudodd o Iwerddon yn 1745 a phriodi menyw oedd aelod o un o deuluoedd mwyaf dylanwadol Ghana ar y pryd.
Wrth siarad â Newyddion S4C, dywedodd Nathan ei fod wedi bod yn ymwybodol o hanes ei hynafiaid ers yn fachgen ifanc, ond heb ddeall arwyddocâd hynny.
“’Na gyd o’n i’n clywed pan o’n i’n 13 oedd bod castell da ni. Ond ar ôl ‘ny nath neb sôn amdano fe nes o’n i tua 30 a dath dad mewn gyda llyfr am hanes Richard Brew,” meddai.
Mae’r seren rygbi bellach wedi ymweld â chartref cyndeidiau ei dad, Castell Brew, ar yr Arfordir Aur yn Ghana. Roedd yn safle ble cafodd pobl eu cadw mewn celloedd fel caethweision. Roedd y profiad meddai yn un “emosiynol iawn.”
“Oedd jyst clywed be oeddwn nhw’n ‘neud i’r bobl ddiniwed yma a sut oedd nhw’n cael eu trin, oedd e’n anodd cymryd.”
Dysgu
Roedd rhannu hanes ei deulu fel rhan o’i raglen ddogfen newydd, Nathan Brew: Caethwasiaeth a Fi, yn hollbwysig iddo meddai.
Roedd yn gyfle i ddangos “ochr gwahanol” i’r hyn rydym yn ei ddeall am y fasnach gaethwasiaeth.
“Mae'r straeon yma yn tueddu cael eu gweud amdano pobl du sydd wedi cael eu henw nhw oherwydd caethwasiaeth. Ond from our perspective fel petai, ni oedd yn neud y pethau drwg hefyd, nid jyst y bobl gwyn.
“Ac mae hwnna’n bwysig hefyd achos mae 'na ddwy ochr i be’ ddigwyddodd dyddiau ‘ny,” meddai.
Dywedodd bod yna heriau ynghlwm â “chymryd cyfrifoldeb” am hanes ein hynafiaid ond bod yna “elfen o gyfrifoldeb yn gweud y stori a rhannu’r stori.”
'Cyfrifoldeb'
Fe wnaeth y newyddiadurwr Laura Trevelyan chwarae rhan flaenllaw wrth sefydlu Heirs of Slavery – grŵp sy’n tynnu sylw at hanes ein hynafiaid yn y fasnach gaethwasiaeth.
Yn y rhaglen mae'n dweud wrth Nathan Brew nad ei fai ef oedd yr hyn ddigwyddodd.
"Nid dy gyfrifoldeb di yw e, nid ti oedd yn ei wneud e.
“Ond drwy ddatgelu'r stori yna rwyt ti'n gwneud rhywbeth pwysig iawn, sef helpu Prydain i ddeall sut y cyrhaeddodd hi lle mae hi heddiw.
“Mae dy stori di'n ficrocosm o Brydain fodern, o'r Gymru fodern ac mae'n rhaid i ni wynebu'r gorffennol er mwyn symud ymlaen."
'Fel gwartheg'
Cafodd y cyn-chwaraewr rygbi i'r Scarlets a’r Dreigiau hefyd gyfle i weld hen ddogfennau oedd yn ymwneud a rôl ei deulu yn y fasnach gaethwasiaeth.
“Nid jyst [Richard Brew] oedd wedi neud e, roedd ei blant wedi parhau gyda’r busnes,” esboniodd.
“Ges i gyfle i weld gwahanol dogfennau yn Llundain, gan gynnwys llythyr nath [Richard Brew] ddanfon nôl; y ffordd oedd e’n sôn amdano bobol – odd’ e fel gwartheg rili, odd’ hwnna’n sioc fawr.”
Er ei fod bellach yn cael ei adnabod fel ‘Nathan Brew’, mae’r seren rygbi yn rhannu ei enw cyntaf gyda’i gyndaid, Richard.
Dywedodd fod gweld llofnod Richard Brew ar bapur wedi peri “sioc arall” iddo.
Roedd y llofnod meddai yn “union fel signature fi, ‘odd e’n swreal.”
“Os bydd hwnna dan unrhyw circumstances gwahanol bydd hwnna falle bach yn emosiynol, ond oedd e’n poeni fi bod e mor agos,” esboniodd.
Bydd modd gwylio'r rhaglen Nathan Brew: Caethwasiaeth a Fi nos Iau am 21:00 ar S4C, S4C Clic a BBC iPlayer.