
‘Profiad gwaetha’ fy mywyd i’: Terfynu beichiogrwydd am resymau meddygol
‘Profiad gwaetha’ fy mywyd i’: Terfynu beichiogrwydd am resymau meddygol
Rhybudd: Mae'r erthygl yma yn cynnwys profiad all beri gofid.
“Doeddan ni fel rhieni ddim yn mynd i ddod â plentyn i’r byd ma yn gwbod mai’r unig beth o’i flaen o oedd dioddefaint.”
Ym mis Rhagfyr 2019, fe gafodd Ceri Lewis o Nefyn, yng Ngwynedd, wybod y byddai’n rhaid iddi derfynu ei beichiogrwydd oherwydd rhesymau meddygol.
A hithau’n Ddiwrnod Codi Ymwybyddiaeth o Golli Babi, mae Ceri’n awyddus i rannu ei phrofiad o golli ei mab Tomos yn y gobaith o helpu eraill.
Mae o leiaf 5,000 o feichiogrwydd yn y DU yn cael eu terfynu bob blwyddyn oherwydd rhesymau meddygol.
Ond yn ôl yr elusen colli babi Sands, nid yw'r Gwasanaeth Iechyd yn cynnig cymorth digonol ar gyfer rhieni mewn profedigaeth.
Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod nhw wedi gwella gwasanaethau profedigaeth a'u bod nhw'n datblygu llwybrau newydd ar gyfer colli babi.
Mae Llywodraeth y DU yn dweud bod “gwrando ar fenywod yn ystod bob cam o'u bywydau” yn ganolog i godi safonau mewn gofal iechyd.
‘Dim opsiynau’
Roedd popeth i'w weld yn mynd yn iawn tan y sgan 20 wythnos.
“Ti’n cyrraedd 20 wythnos a meddwl bod bob dim yn iawn. Ti ‘di cyrraedd y pwynt 12 wythnos ’na, does na’m byd i boeni amdan,” meddai Ceri.
“I ni dw i’n meddwl o’dd o just yn fater o, ydi o am fod yn hogyn neu hogan, yn frawd bach neu chwaer fach i’r mab? Ac mi ath y sgan yn iawn.
“Ond ar y diwedd dyma’r atmosffer yn newid, a dyma’r ddynes yn arafu a just dweud, ’da ni’n mynd i orfod gyrru chdi i weld rhywun eto.
“Cause for concern oedd y geiriau nath hi ddefnyddio, a nath bob dim just newid o hynny ‘mlaen.”
Fe gafodd Ceri a’i gŵr, Aaron, wybod bod gan eu babi nam oedd yn peryglu ei fywyd.
Roedd ei nam mor ddifrifol nes bod rhaid terfynu’r beichiogrwydd wedi 22 wythnos a hanner.
“I ni doedd ‘na ddim opsiynau, gafo ni wybod pa mor eithafol oedd y nam arno fo a chwarae teg i’r arbenigwr oedd efo ni, oedd o’n ofnadwy o dda o safbwynt doedd o’m yn trio dylanwadu ni,” meddai Ceri.
“Ond dyma fo’n deud doedd o’m yn sicr fysa’r babi yn cyrraedd pen y beichiogrwydd beth bynnag, doedd o’m yn sicr wedyn os fysa fo’n dod drwy’r geni – ac os fysa fo, oedd o ‘di deud mae’n debygol iawn na bywyd byr ofnadwy a phoenus ofnadwy fysa yna.
“Felly, yn bersonol, doedd o’m yn benderfyniad as such, ond yn wbath oedd yn gorfod digwydd er bo ni’m isho fo ddigwydd.”

Dywedodd Ceri ei bod wedi teimlo’n euog ar ôl terfynu’r beichiogrwydd.
“Nesh i deimlo euogrwydd yn y cychwyn, a gwylltineb. O’n i mor flin bod o ‘di digwydd, o’n i’n gweld o mor annheg,” meddai.
“Ond buan iawn ar ôl cwpl o wythnosa’, pan odd yr hormona’ di dechra’ setlo ychydig, neshi stopio teimlo’n euog achos dw i’n hollol ffyddiog bod ni ‘di neud yr unig beth oedd yn deg iddo fo er gwaetha’ be ‘di barn neb arall.”
Mae tair elusen beichiogrwydd – ARC, Petals a Tommy’s – wedi ceisio chwalu’r tabŵ drwy gynnal arolwg o fwy na 1,300 o bobl sydd wedi bod trwy’r profiad.
Nid oedd bron i dri chwarter yn teimlo bod eu colled yn cael ei drin yn yr un modd â chamesgoriad neu farw-enedigaeth, gyda nifer yn dweud nad oedden nhw'n teimlo eu bod wedi cael yr un cydymdeimlad.
Dywedodd 87% eu bod yn teimlo’n euog, ac 80% eu bod yn unig.
“Rwy'n meddwl ei fod yn ymwneud â'r ffaith bod hwn yn ddewis y mae'r rhieni wedi'i wneud,” meddai Clea Harmer, prif swyddog gweithredol Sands.
“Ond i lawer o'r rhieni sydd wedi colli babi, mae'n teimlo ei fod yn rhywbeth sydd wedi'i wneud iddyn nhw gan mai ychydig iawn o reolaeth sydd ganddyn nhw.”
Ychwanegodd Ms Harmer bod y teimladau o euogrwydd yn gallu gwaethygu’r galar, gyda nifer o rieni yn teimlo nad ydyn nhw’n haeddu cael cymorth.
‘Elusennau’n werthfawr’
Yn ôl Ceri, nid yw’r Gwasanaeth Iechyd yn darparu digon o gymorth iechyd meddwl i fenywod sydd wedi colli babi.
“Dw i’n meddwl yn gyffredinol mae’r petha’ sydd ar gael yn fama o safbwynt delio ag unrhyw beth sy’n ymwneud ag iechyd meddwl ddim yn ddigonol,” meddai.
“Mae ’na flwyddyn, flwyddyn a hanner, dwy flynedd o restr aros i gael unrhyw math o gyngor yn ymwneud ag iechyd meddwl – ac mae hynna’n cynnwys pobl sy’n mynd trwy profedigaeth.”

Fe gafodd Ceri gynnig i siarad â bydwraig profedigaeth yn dilyn y golled, ond nid oedd yn teimlo’n barod i wneud hynny ar y pryd.
Felly roedd yn rhaid iddi droi at therapi preifat ac elusennau am gymorth – a thrwy Sands, fe gysylltodd â mam arall oedd wedi profi rhywbeth tebyg.
“Roedd y ddwy ohona ni’n cefnogi ein gilydd, er bo’ ni ‘rioed ‘di cyfarfod wyneb yn wyneb, oeddan ni’n cysylltu trwy WhatsApp,” meddai.
“Pan oedd hi’n teimlo bod neb arall yn dalld, sa hi’n cysylltu efo fi, a fi efo hi. Felly heb Sands, dw i’m yn meddwl fyswn i ‘di cal hynny.”
Dywedodd Ms Harmer fod ‘na ddiffyg cymorth iechyd meddwl ar gyfer rhieni mewn profedigaeth.
“Mae'n gwbl annerbyniol pa mor anodd yw hi i rieni mewn profedigaeth gael mynediad at gymorth iechyd meddwl, ac yn aml, nid yw'r Gwasanaeth Iechyd yn gallu darparu'r hyn sydd ei angen ar rieni.
“Dw i’n credu bod dibynnu ar elusennau, neu ar bobl yn gallu fforddio rhywbeth drostynt eu hunain, yn gwbl annerbyniol.”
‘Gwelliannau’
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod nhw am sicrhau eu bod nhw'n “darparu’r gofal a’r cymorth sydd eu hangen ar deuluoedd”.
“Rydym wedi gwneud gwelliannau i wasanaethau profedigaeth ac rydym yn datblygu llwybrau newydd ar gyfer beichiogrwydd a cholli babanod,” medden nhw.
“Mae ein fframwaith profedigaeth cenedlaethol yn nodi’r cymorth y dylai pobl ddisgwyl ei gael os ydyn nhw’n wynebu neu wedi profi profedigaeth.”
Ychwanegodd y llywodraeth eu bod nhw wedi lansio'r gwasanaeth profedigaeth cyntaf dan arweiniad seicoleg yng Nghymru yr wythnos diwethaf yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y DU bod iechyd menywod yn “brif flaenoriaeth”.
“Rydym wedi ymrwymo i godi safonau mewn gofal iechyd, ac yn allweddol i hynny mae sicrhau ein bod yn gwrando ar fenywod yn ystod bob cam o'u bywydau,” medden nhw.
“Yr wythnos diwethaf, fe wnaethom gyhoeddi y bydd pob rhiant nawr yn gallu gwneud cais am dystysgrifau colli babi, ni waeth pryd y digwyddodd y golled. Mae’n bwysig i rieni mewn profedigaeth gael yr opsiwn i gydnabod eu colled yn swyddogol os ydynt yn dymuno gwneud hynny.”