Newyddion S4C

'Symud ymlaen': Datblygiad pentref gwyliau ym Môn gam yn nes ar ôl dyfarniad llys

14/10/2024

'Symud ymlaen': Datblygiad pentref gwyliau ym Môn gam yn nes ar ôl dyfarniad llys

Mae datblygwyr pentref gwyliau dadleuol ar Ynys Cybi yn gobeithio 'symud ymlaen' gyda'u cynlluniau wedi i farnwr wrthod cais gan ymgyrchwyr i geisio eu hatal.

Ers 2012, mae cwmni Land and Lakes wedi cyflwyno cais cynllunio i godi 500 o fythynnod gwyliau a phwll nofio fel rhan o bentref hamdden ar safle Parc Arfordirol Penrhos ar Ynys Cybi.

Cafodd caniatâd ei roi gan Gyngor Môn yn 2016 ac er bod gwaith cychwynnol wedi ei wneud yno, mae’r datblygwyr wedi dweud fod “oedi” ar y gwaith datblygu llawn wrth i’r cwmni “ddisgwyl i heriau presennol yn economi'r DU leddfu.”

Yn gynharach eleni, cafodd cais gan ymgyrchwyr yn erbyn y datblygiad am adolygiad barnwrol ei chaniatáu, a’i chynnal yn yr Uchel Lys yng Nghaerdydd.

Roedd Hilary Paterson-Jones o Gaergybi, ar ran y grŵp ymgyrchu Achub Parc Arfordirol Penrhos, yn dadlau nad oedd y caniatâd cynllunio gwreiddiol bellach yn ddilys ar ôl cyfnod cyhyd heb ddatblygiad "sylweddol" ar y safle.

Roeddent yn gobeithio gorfodi Land and Lakes i wneud cais cynllunio o’r newydd, er bod Cyngor Môn yn mynnu fod y gwaith ar y safle yn ddigonol i ddilysu’r caniatâd cynllunio.

Ddydd Llun, fe gafodd dyfarniad y barnwr, Mr Ustus Mould, ei wneud yn gyhoeddus, gan wrthod hawliad yr ymgyrchwyr nad oedd y caniatâd cynllunio bellach yn ddilys.

Fe wnaeth y barnwr hefyd wrthod cais Ms Paterson-Jones i gael apelio yn erbyn y penderfyniad yn yr Uchel Lys.

'Cymhleth'

Dywedodd Ms Paterson-Jones y bydd y “brwydr yn parhau” gan ddatgan ei bwriad i herio’r penderfyniad yn y Llys Apêl.

Mae Land and Lakes wedi croesawu’r dyfarniad.

Dywedodd llefarydd: “"Pan gafodd y cais cynllunio ar gyfer Penrhos ei gymeradwyo yn 2016, roedd yn un o'r ceisiadau cynllunio mwyaf cymhleth ac yr ymgynghorwyd yn helaeth ag ef erioed yng Nghymru.

“Bydd ein datblygiad yn cydblethu'n ofalus â'r dirwedd bresennol, gan gynnwys y coetiroedd a nodweddion naturiol y parc.

"Rydym yn edrych ymlaen yn awr at symud ymlaen gyda'n datblygiad, a fydd yn sicrhau bod Penrhos yn parhau i fod yn lle i bobl leol ac ymwelwyr elwa ohono a'i fwynhau yn y tymor hir, tra hefyd yn dod â buddsoddiad a swyddi sylweddol i'r ynys."

'Penderfynol'

Mewn datganiad ar wefan Facebook, dywedodd Ms Paterson-Jones: “Yn anffodus, ni wnaeth ddaeth dyfarniad yr adolygiad o’n plaid ni.

"Wedi trafodaethau helaeth gyda’n tîm cyfreithiol, rydym am fynd a’r mater i’r Llys Apêl. Fe fydd y llys yn debygol o gynnwys barnwr a llys gwahanol.

“Rydym yn pwysleisio’r pwysigrwydd o fod yn unedig a’r sgil effeithiau bosib o’r her gyfreithiol newydd hwn, gan ei fod yn rhoi’r cyfle i ni ddychwelyd i’r llys ac eirioli dros Benrhos unwaith eto.

"O’r cychwyn cyntaf, rydym wedi bod yn benderfynol ac rydym yn gobeithio y byddwch yn parhau i’n cefnogi ni yn ein hymdrechion yn y dyfodol.”

Dywedodd llefarydd ar ran y cyngor: “Mae'r Cyngor Sir wedi bod yn hyderus yng nghadernid ei brosesau wrth wneud penderfyniadau, ynghyd â dehongliad swyddogion o’r gyfraith a'u gweithrediad ohoni. 

“Rydym yn croesawu dyfarniad yr Uchel Lys."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.