'Unig a digalon': Endaf Emlyn yn trafod cyfnod o iselder yn fachgen ifanc
Mae'r cyfansoddwr a'r cyfarwyddwr Endaf Emlyn wedi siarad am y tro cyntaf am ei iselder yn fachgen ifanc, a hynny yn ei hunangofiant 'Salem a Fi'.
Mae'r hunangofiant wedi cael ei gyhoeddi i ddathlu hanner canmlwyddiant ers rhyddhau ei record Salem.
Mae'r gyfrol yn edrych yn ôl ar ei fagwraeth ym Mhwllheli yn ogystal â'r newidiadau mawr yng Nghymru dros y degawdau yn sgil sefydlu S4C a labeli recordio Cymraeg,
Mae Endaf Emlyn hefyd yn siarad yn gyhoeddus am y tro cyntaf am ei iselder yn ifanc er mwyn annog dynion eraill i siarad mwy am iechyd meddwl.
Dywedodd: "Mi oedd hwn yn gyfnod anodd iawn i mi a bu farw fy mam yn fuan wedyn. Tua’r un adeg, mi wnaeth fy nwy chwaer fawr, Mari a Shân, adael cartref a dim ond fi a Nhad oedd ar ôl – dau ar goll mewn tŷ gwag a di-gysur.
"Roedd o’n siŵr o fod yn unig a digalon fel finnau. Ond fyddai run ohonom wedi mentro ymagor i sôn am hyn.”
Symudodd i lawr i Gaerdydd ar ôl cwblhau Lefel A er mwyn gwneud cwrs ymarfer dysgu, ac o fewn wythnosau o fod yn y coleg, fe gafodd dabledi iselder gan y meddyg.
"Yn araf, mi ddos nol ata fi fy hun, ond mi oedd hwn yn gyfnod tywyll yn fy mywyd ac mi fyswn i wir yn annog dynion, hen ac ifanc, i drafod eu teimladau gyda theulu neu ffrindiau agos – ac i fynd i weld y meddyg," meddai.
“Doedd dim digon o hynny yn digwydd pan oeddwn i yn ifanc, ac mae’n beryg fod hynny dal yn wir heddiw.”
Mae'r hunangofiant hefyd yn trafod ei ddyddiau cynnar yng Nghaerdydd cyn symud i Lundain i chwilio am label recordio.
Ychwanegodd: "Doedd ‘na ddim llawer o recordiau canu poblogaidd Cymraeg bryd hynny a doedd na chwaith ddim llawer o labeli yn cyhoeddi cerddoriaeth Gymraeg.
“Felly, yn 1970, mi es i Lundain gyda thâp chwarter modfedd yn fy llaw, gyda’r gobaith o ennill fy mara menyn fel cyfansoddwr caneuon."
Wedi cyfnod o recordio caneuon yn Abbey Road, sylweddolodd yn eithaf buan ei fod yn mwynhau cyfansoddi caneuon yn y Gymraeg yn llawer mwy.
Bydd Salem a Fi allan ar 25 Hydref.