Newyddion S4C

‘Torcalonnus’: Ymateb Wynne Evans i sylwadau am ‘jôc wirion’ ar Strictly Come Dancing

14/10/2024
Wynne Evans a Katya Jones

Mae’r Cymro Wynne Evans yn dweud fod yr ymateb i “jôc wirion” y gwnaeth yn ystod rhaglen Striclty Come Dancing nos Sadwrn yn “dorcalonnus”.

Cafodd clipiau o Wynne Evans a’i bartner dawnsio Katya Jones eu rhannu yn dilyn y rhaglen, gyda channoedd o wylwyr ar y cyfryngau cymdeithasol yn awgrymu nad oedd eu partneriaeth yn fêl i gyd.

Roedd y cyntaf yn dangos Katya Jones yn anwybyddu ymdrech gan Wynne Evans i roi ‘pawen lawen’ iddi, a’r ail yn ei dangos yn gwthio ei law oddi ar ei chanol.

Digwyddodd y ddau beth yn yr ardal lle mae’r enwogion a’u partneriaid dawnsio yn aros wrth glywed canlyniadau’r dawnsiau unigol.

Dywedodd y partneriaid yn ddiweddarach ar y cyfryngau cymdeithasol mai “jôc wirion” ydoedd, a bod y ddau yn “ffrindiau go iawn”.

Wrth drafod yr ymateb ar BBC Radio Wales fore Llun, dywedodd Mr Evans: “Mae rhai o’r pethau sydd wedi ei ysgrifennu amdanaf dros y diwrnod diwethaf wedi torri ‘nghalon.

“Dyw e ddim yn neis i fyw yn y cyfnod yna, ond mae Katya a finnau yn agos iawn, iawn ac yn ffrindiau da iawn, ac ar nos Sadwrn, fe wnaethon ni jôc wirion.

“Roedd e’n jôc wirion a aeth yn anghywir. Roedden ni’n meddwl ei fod yn ddoniol, doedd o ddim yn ddoniol. Mae o wedi cael ei gamddehongli’n llwyr.”

Fe ychwanegodd: “Mae Katya wedi siarad amdano ar ei chyfrifon cyfryngau cymdeithasol. Mae hi wedi egluro mai jôc oedd o, doedd hi ddim wedi ei thramgwyddo o gwbwl.

“Does ‘na ddim, stori yna rili.”

Dywedodd ei fod yn parhau yn awyddus i barhau yn y gyfres, wedi iddo orffen yn gydradd ail nos Sadwrn gyda dawns y tango.

“Rydw i dal eisiau gwneud hyn,” meddai. “Dwi’n cael amser gorau fy mywyd. Dwi just ddim eisiau i hyn fod y peth mae pobl yn ei gofio.”

Mae’r BBC wedi gwrthod rhoi ymateb, ond mae tîm lles y gyfres wedi “siarad gyda’r cwpwl a phenderfynu nad oedd angen gweithredu ymhellach.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.