Newyddion S4C

Ymchwiliad Novichok: Digon o wenwyn mewn potel bersawr i ladd 'miloedd' o bobl

14/10/2024
 Dawn Sturgess

Roedd digonedd o wenwyn mewn potel bersawr a laddodd ddynes o Wiltshire i ladd miloedd o bobl, yn ôl ymchwiliad cyhoeddus i'w marwolaeth. 

Mae'r gwrandawiad yn cael ei gynnal er mwyn deall amgylchiadau marwolaeth Dawn Sturgess ar ôl iddi ddod i gysylltiad â'r cemegyn gwenwynig Novichok yn 2018.

Bu farw ym mis Gorffennaf y flwyddyn honno ar ôl iddi chwistrellu'r persawr yn Amesbury. 

Tu mewn i'r botel honno roedd Novichok.

Wrth agor yr ymchwiliad, dywedodd Andrew O’Connor KC: “Yr hyn sy'n frawychus ydy fod Dawn wedi rhoi'r gwenwyn yma ar ei chroen heb ddeall beth oedd yn y botel. 

“Doedd hi ddim yn ymwybodol o gwbwl o'r perygl marwol, am fod yr hylif gwenwynig wedi ei guddio - yn ofalus a bwriadol - y tu mewn i botel bersawr.  

“Bydd y dystiolaeth yn awgrymu fod y botel - y byddwn yn clywed a oedd cyn cynnwys digon o wenwyn i ladd miloedd o bobl - wedi ei gadael yn gynharach mewn man cyhoeddus, gan beri risg i rywun ei darganfod a mynd â hi adref". 

Unigryw 

Ychwanegodd fod marwolaeth Dawn Sturgess yn "rhyfeddol" ac "unigryw". 

“Fe wnaeth hi fyw bywyd, heb unrhyw gyswllt â gwleidyddiaeth a chysylltiadau rhyngwladol ”, ychwanegodd. 

Bedwar mis cyn marwolaeth Ms Sturgess, cafodd Sergei Skripal a'i ferch Yulia hefyd eu gwenwyno gyda Novichok yng Nghaersallog (Salisbury)

Roedd Sergei Skripal yn gyn ysbïwr Rwsia. Fe wnaeth y ddau oroesi.

Yn ystod yr wythnos, bydd tystion fel parafeddygon a heddlu Wiltshire yn rhoi tystiolaeth. Bydd mam Ms Sturgess hefyd yn siarad a bydd yr ymchwiliad yn clywed gan swyddogion heddlu sydd wedi bod yn ymchwilio i'r digwyddiad Novichok.

Mae disgwyl i rywfaint o'r dystiolaeth gael ei glywed yn breifat oherwydd bod hyn yn fater o ddiogelwch ar raddfa Brydeinig. 

Mae awdurdodau'r DU wastad wedi dweud mai Rwsia oedd yn gyfrifol gan honni mai nhw geisiodd ladd Sergei a Yulia Skripal ac yna cael gwared â'r botel bersawr. Gwadu hynny mae Rwsia.

Cafodd y botel ei darganfod gan bartner Ms Sturgess, Charlie Rowley. Fe aeth yn sâl hefyd, cyn gwella yn yr ysbyty.

Yn ôl Llysgenhadaeth Rwsia 'syrcas' yw'r ymchwiliad cyhoeddus.

Bydd yr adroddiad terfynol yn cael ei gyhoeddi flwyddyn nesaf.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.