Cyhuddo dyn mewn cysylltiad ag ymosodiad rhyw honedig ar fenyw yng Nghaerdydd
14/10/2024
Mae dyn wedi cael ei arestio a'i gyhuddo mewn cysylltiad ag ymosodiad rhyw honedig ar fenyw yng Nghaerdydd.
Mae Heddlu'r De wedi bod yn ymchwilio i ddigwyddiad o dan y bont reilffordd yn agos at Neuadd Senghenydd a Heol Salisbury yn ardal Y Waun Ddyfal yn y brifddinas ar 12 Mai.
Mae Fawaz Alsamaou, 32, o Huddersfield yng ngogledd Lloegr wedi cael ei gyhuddo o geisio treisio.
Bydd yn ymddangos yn Llys Ynadon Caerdydd ddydd Llun.