Newyddion S4C

Cuddio dyn eira aur mewn calendr adfent

14/10/2024
Y dyn eira

Bydd cymeriad hoffus Y Dyn Eira yn ymddangos ar ddarn 50 ceiniog y Bathdy Brenhinol, a bydd fersiwn aur wedi ei guddio mewn un o'u calendr adfent eleni. 

Yn ffenestr Noswyl Nadolig y bydd y darn gwerthfawr wedi ei guddio. 

£30 fydd y pris am y calendr adfent gyda chyfanswm o 3,000 ar gael, ac un yn unig fydd â'r darn aur.   

Mae'r darnau 50c eraill ar gael mewn amrywiol liwiau eraill, gyda'r prisiau rhataf yn £12. 

Fyddan nhw ddim ar gael i'w gwario mewn siopau. 

Mae'r darn 50c newydd yn dathlu llyfr Raymond Briggs, ac mae'r llun ar gefn y darn arian yn dangos y dyn eira yn addurno coeden Nadolig. 

Ymddangosodd Y Dyn Eira ar ddarnau 50c y Bathdy Brenhinol am y tro cyntaf yn 2018. Mae bron 700,000 ohonyn nhw wedi eu dosbarthu i 75 o wledydd, yn ôl y sefydliad o Lantrisant, Rhondda Cynon Taf.     

Cafodd The Snowman, Raymond Briggs ei gyhoeddi gyntaf yn 1978, fel llyfr lluniau heb ysgrifen. Ers hynny mae wedi gwerthu 5.5 miliwn o gopïau ar hyd a lled y byd. 

Cafodd fersiwn Gymraeg Y Dyn Eira ei chyhoeddi gan Wasg y Dref Wen yn 1998. 

O 11 Tachwedd, bydd modd prynu darn 50c Y Dyn Eira yn ystod sesiynau Profiad y Bathdy Brenhinol yn eu canolfan yn Llantrisant.  

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.