Newyddion S4C

Y chwaraewr rygbi Jonathan 'Fox' Davies yn ymddeol

14/10/2024
Jonathan Davies Scarlets - Llun Huw Evans

Mae cyn chwaraewr Cymru, Y Scarlets a'r Llewod, Jonathan Davies wedi cyhoeddi ei fod yn ymddeol o rygbi proffesiynol.

Wedi ei fagu ym mhentref Bancyfelin, Sir Gaerfyrddin gyda'i deulu yn rhedeg tafarn y Fox and Hounds, mae gyrfa'r canolwr wedi para 18 mlynedd.

Yn ystod y cyfnod hwnnw ymddangosodd mewn mwy na chant o gemau ar gyfer Cymru a'r Llewod. Fe chwaraeodd 209 o weithiau dros y Scarlets.  

Enillodd gystadleuaeth BBC Cymru - Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn yn 2017.

Daeth gyrfa'r canolwr 36 oed i ben gyda'r Scarlets fis Mai diwethaf, wedi iddo sgorio 55 o geisiau.

Cadarnhaodd Jonathan Davies ei fod bellach eisiau canolbwyntio ar dreulio amser gyda'i deulu ar ôl dod yn dad am y tro cyntaf. 

'Un o'n goreuon' 

Cyhoeddodd ar ei gyfrif Instagram: "Ar ôl treulio ychydig o amser i ffwrdd o'r gêm wedi fy nhymor olaf gyda'r Scarlets, rydw i wedi penderfynu dod â fy ngyrfa rygbi broffesiynol i ben.

"Rydw i wedi mwynhau'r seibiant a'r haf adref gyda fy nheulu, ac wedi bod yn ffodus i gael treulio amser gwerthfawr gyda fy mab newydd anedig, a fy ngwraig, wrth i ni ddechrau ar bennod newydd gyda'n gilydd fel rhieni.

"Yn naturiol byddaf yn colli'r sesiynau hyfforddi a'r chwarae ar lefel gystadleuol wrth ymyl fy nghyd chwaraewyr, ond dros y misoedd diwethaf, rydw i wedi asesu fy holl opsiynau, ac edrych yn ôl ar yrfa yr ydw i'n falch iawn ohoni".  

Wrth ymateb i'w ymddeoliad, dywedodd Tîm Rygbi'r Scarlets: "Bydd wastad yn cael ei gofio fel un o'n goreuon. Pob lwc i ti a'r teulu a be' bynnag ddaw nesaf. Diolch a phob lwc Foxy."     

Llun: Asiantaeth Huw Evans  

 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.