Newyddion S4C

Dyn yn derbyn anafiadau difrifol yn dilyn anhrefn ar ôl gêm bêl droed

13/10/2024
Canolfan Hamdden y Dwyrain, Caerdydd

Mae Heddlu De Cymru'n ymchwilio ar ôl i ddyn ddioddef anaf allai “newid ei fywyd” mewn anhrefn yn dilyn gêm bêl-droed yng Nghaerdydd.

Cafodd swyddogion eu galw i’r digwyddiad yng Nghanolfan Hamdden y Dwyrain yn ardal Llanrhymni'r ddinas am tua 16.00 ddydd Sadwrn yn dilyn adroddiadau o anhrefn treisgar.

Mae’r llu yn annog unrhyw un sydd ag unrhyw wybodaeth i gysylltu â nhw gan ddynodi cyfeirnod: 2400340400.

Llun: Wikimedia Commons

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.