Newyddion S4C

Curo Montenegro eto yw’r nod i Gymru nos Lun

14/10/2024
Tîm pêl-droed Cymru

Fe fydd tîm pêl-droed dynion Cymru’n anelu at guro Montenegro am yr eildro yng Nghynghrair y Cenhedloedd yng Nghaerdydd nos Lun.

Tîm Craig Bellamy yw'r ffefrynnau i ailadrodd eu buddugoliaeth oddi cartref o ddwy gôl i un ym mis Medi.

Mae Montenegro 55 o safleoedd yn is yn nhabl detholion y byd.

Ar ôl sgorio dwy gôl o fewn munudau cynta’r gêm fe darodd Montenegro yn ôl i bwyso ar gochion Cymru.

Yr un oedd y stori nos Wener yn erbyn Gwlad yr Iâ gyda’r tîm cartref yn sicrhau gêm gyfartal 2-2 ar ôl i Gymru fynd 2-0 ar y blaen.

Cael a chael oedd hi yn y diwedd er i Bellamy ddatgan ei fod yn hapus iawn gyda’r canlyniad.

Ond fe fydd yn rhaid iddo wneud heb yr ymosodwr o Spurs Brennan Johnson sydd wedi bod ar dân ar ôl sgorio saith gôl mewn saith gêm. Fe dderbyniodd gerdyn melyn am yr eildro sy’n golygu ei fod wedi ei wahardd am un gêm.

Fe sgoriodd gôl agoriadol Cymru yn Reykjavik cyn cael ei dynnu o’r cae fel mesur “rhagofal” yn ôl Bellamy.

Roedd Cymru’n ffodus i beidio â cholli’r gêm wrth i Wlad yr Iâ daro nôl yn yr ail hanner. Roedd chwaraewyr Cymru ymddangos yn flinedig iawn.

Mae’r un patrwm wedi datblygu yn nhair gêm Cymru o dan Bellamy – dechreuadau cyffrous a pherfformiadau trawiadol yn yr hanner cyntaf ac yna gostwng mewn dwyster yn ystod yr ail.

Gallai’r diffyg munudau sydd gan lawer o’r garfan ar lefel clwb ar hyn o bryd fod yn ffactor wrth gynnal yr egni sydd ei angen i gyflawni steil pêl-droed dwysedd uchel Bellamy.

Fe wnaeth anafiadau i'r capten Aaron Ramsey ac Ethan Ampadu yn sicr wanhau canol cae Cymru cyn y daith i Wlad yr Iâ.

Fe fydd yn rhaid i Gymru wneud heb Jordan James yng nghanol cae hefyd ar ôl iddo yntau dderbyn ail gerdyn melyn yn y gystadleuaeth.

Doedd Joe Allen ddim yn ddigon ffit i’w gynnwys yn y garfan 23 dyn ar gyfer Gwlad yr Iâ. Ond mae’n bosib y caiff ei gynnwys gan Bellamy yn y gêm nos Lun. 

Gwahardd

Un nodyn o newyddion da i Gymru yw bod ymosodwr Montenegro Milutin Osmajic wedi ei wahardd ar ôl derbyn ail gerdyn melyn wrth i’w dîm golli 1-0 yn erbyn Twrci nos Wener.

Mae Osmajic, sy’n chwarae i Preston, wedi bod yn y penawdau yn ddiweddar ar ôl derbyn gwaharddiad o wyth gêm a dirwy o £15,000. Cafodd y ddirwy ar ôl brathu amddiffynnwr Blackburn, Owen Beck, yn ystod gêm fis diwethaf.

Mae Twrci yn arwain y tabl i ennill dyrchafiad awtomatig i haen uchaf Cynghrair y Cenhedloedd ar hyn o bryd gyda saith pwynt.

Mae Cymru, fydd yn ymweld â Thwrci ar gyfer eu gêm olaf ond un fis nesaf, ar bum pwynt a Gwlad yr Iâ ar bedwar.

Byddai curo Montenegro, sydd eto i ennill pwynt, yn gam mawr i Gymru sicrhau o leiaf ail safle yn y grŵp a’u lle yn y gemau ail gyfle ym mis Mawrth nesaf.

Gallai Gwlad yr Iâ wneud ffafr â Chymru wrth guro Twrci yn Reykjavik nos Lun.

Fe fydd Sgorio Rhyngwladol - Cymru v Montenegro ar S4C nos Lun am 17:20.

Llun: CBDC

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.