Newyddion S4C

SpaceX yn llwyddo i ddal roced oedd yn dychwelyd i’r ddaear am y tro cyntaf

13/10/2024
spacex

Mae SpaceX wedi llwyddo i ddal rhan o roced oedd yn dychwelyd i’r ddaear a hynny am y tro cyntaf erioed.

Roedd cwmni'r biliwnydd Elon Musk wedi lansio ei roced Super Heavy yn gynharach o Boca Chica, Texas am 08.25 yno (12.25 yng Nghymru).

Am y tro cyntaf, defnyddiodd SpaceX freichiau robotig mawr (mae’r cwmni yn cyfeirio atynt fel ‘chopsticks’) i ddal rhan o’r roced wrth iddo ddychwelyd i’r pad lansio.

Mae gallu dal ac ailddefnyddio roced yn cael ei ystyried yn gam sylweddol tuag at leihau costau teithio i’r gofod.

Teithiodd ail ran y roced, y Starship, o amgylch y ddaear cyn dod yn ôl i lawr dros gefnfor India.

"Roedd heddiw yn gam mawr tuag at allu byw bywyd ar sawl planed," meddai Elon Musk.

Llun gan SpaceX

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.