Newyddion S4C

Gwyddonwyr yng Nghymru i ddatblygu diagnosis cyflym o TB mewn pobl a gwartheg

Yr Athro Glyn Hewinson

Mae gwyddonwyr o Gymru wedi derbyn cyllid gwerth bron i £1.2 miliwn i ddatblygu synhwyrydd newydd ar gyfer profion twbercwlosis (TB) mewn pobl ac anifeiliaid a all roi canlyniad ymhen yr awr.

Yn ôl Prifysgol Aberystwyth fe fydd y dechnoleg “yn ddigon syml i unrhyw weithiwr gofal iechyd neu filfeddyg ei ddefnyddio” ac “fe fydd yn fwy penodol a mwy sensitif na’r dulliau presennol ynghyd â sylweddol gyflymach na phrofion eraill”.

Wedi’i gefnogi gan gyngor ymchwil UKRI, mae'r prosiect yn dod ag arbenigwyr ym maes twbercwlosis, meddygaeth filfeddygol, microbioleg, a pheirianneg microdon a ffotoneg ynghyd i ddatblygu ateb newydd i’r broblem iechyd byd-eang.

Dywedodd y Brifysgol fod TB yn un o brif achosion dioddefaint a marwolaeth mewn pobl ac anifeiliaid ledled y byd a’r ail brif haint sy’n lladd pobl ar ôl COVID-19. 

Yn ôl y brifysgol, ar hyn o bryd mae tua 10 miliwn o heintiau TB dynol yn cael eu cofnodi bob blwyddyn, gyda chyfradd marwolaeth o 1.8 miliwn y flwyddyn.

Mae diffyg diagnosis cywir a chyflym, yn enwedig mewn gwledydd tlotach, yn aml yn arwain at ddiagnosis anghywir a thriniaeth aneffeithiol o gleifion TB.

Dywedodd yr Athro Glyn Hewinson (llun uchod), Cadeirydd ymchwil Sêr Cymru yn y Ganolfan Ragoriaeth ar gyfer TB Buchol ym Mhrifysgol Aberystwyth, yr Athro Glyn Hewinson: “Gall effaith TB fod yn ddinistriol, ac felly bydd datblygu ffordd o wneud diagnosis yn gyflym yn gwneud gwahaniaeth mawr. 

"Mae dod â’r epidemig TB dynol i ben erbyn 2050 yn nod datblygu cynaliadwy’r Cenhedloedd Unedig, ac mae datblygu profion diagnostig cyflym mwy effeithiol yn argymhelliad allweddol gan Sefydliad Iechyd y Byd. 

"Rydym ni’n edrych ymlaen at weithio gyda’n cydweithwyr yng Nghaerdydd er mwyn gwneud cynnydd yn y maes ymchwil pwysig hwn.” 

Effaith ar les ffermwyr

Ychwanegodd y brifysgol fod nifer uchel yr achosion o TB mewn gwartheg mewn rhannau o'r DU yn cael effaith fawr ar fywoliaeth a lles ffermwyr. Mae goruchwyliaeth, profion diagnostig, difa moch daear a brechu yn costio cyfanswm o £100 miliwn y flwyddyn i lywodraeth y DU yn unig.

Dywedodd cyd-arweinydd y prosiect, Yr Athro Les Baillie, Athro Microbioleg yn yr Ysgol Fferylliaeth a’r Gwyddorau Fferyllol ym Mhrifysgol Caerdydd: "Mae twbercwlosis yn broblem benodol i ffermwyr yng Nghymru sydd wedi colli gwartheg o ganlyniad i TB buchol ledled y wlad. 

"Mae diagnosis o gamau cynnar yr haint yn heriol oherwydd diffyg profion cyflym a chywir.

"Er mwyn mynd i'r afael â hyn, rydyn ni’n gweithio gyda chydweithwyr o Brifysgol Aberystwyth i ddatblygu prawf mewn amser real sy'n gallu canfod presenoldeb y pathogen mewn samplau clinigol ac amgylcheddol."

Bydd gwyddonwyr Prifysgol Aberystwyth yn arwain ar ddatblygu a gwerthuso dyfais optegol a fydd am y tro cyntaf yn ceisio datrys problemau gydag amhureddau a sensitifrwydd sampl.

Llun: Yr Athro Glyn Hewinson

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.