Y misoedd diwethaf wedi bod yn ‘frwydr’ i Si King ar ôl marwolaeth Dave Myers
Mae'r cogydd teledu Si King wedi dweud fod y misoedd diwethaf wedi bod yn “frwydr” yn dilyn marwolaeth ei gyd-seren Hairy Bikers Dave Myers.
Bu farw Myers, a ddaeth yn enwog ochr yn ochr â King, ei ffrind o 30 mlynedd, fel rhan o'r ddeuawd coginio, yn 66 oed ym mis Chwefror.
Yn 2022 roedd wedi datgelu ei ddiagnosis o ganser a dywedodd ei fod yn cael cemotherapi.
Yn y Sunday Times, dywedodd King, sy'n 57 oed: “Byddaf yn onest â chi, mae’r misoedd diwethaf wedi bod yn anodd.
“Mwy nag unwaith roeddwn i ar fin neidio ar fy meic a mynd i'r machlud.
“Peido dweud wrth neb i ble roeddwn i'n mynd. Dim ond gyrru i ffwrdd a byth yn dod yn ôl.
“Ar adegau eraill roeddwn i'n gynddeiriog. Yn gynddeiriog at y clefyd hwnnw, at Dduw ac unrhyw beth arall y gallwn feddwl amdano. Roedd pobl yn gofyn beth oeddwn i'n mynd i'w wneud nesaf.
“Yr ateb yw fy mod yn mynd i gymryd peth amser i fyfyrio ar y bywyd ges i gyda fy ffrind gorau, a meddwl am symud ymlaen.
“Sef yn union beth fyddai Dave wedi ei ddymuno. Symud ymlaen, peidiwch ag aros ar y gorffennol.”
Cyrri a lager
Fe ddatgelodd King ei fod wedi bod yn llunio casglaid newydd o ryseitiau clasurol Hairy Bikers ac ychwanegodd fod “ychydig o brosiectau newydd ar y gorwel”.
“Ond hyd yn oed os ydw i’n gwneud dim byd mwy na gwneud brechdanau cig moch a chwarae ambell i gig gyda fy mand, mae hynny’n iawn gen i. Dyddiau hapus!” meddai.
Fe wnaeth y ddau gyfarfod yn 1992 a dywedodd King fod eu perthynas “wedi’i selio dros masala cyw iâr tandoori, pedwar poppadom a thri pheint o lager”.
Eu hymddangosiad teledu cyntaf gyda'i gilydd oedd The Hairy Bikers's Cookbook yn 2004, a oedd yn rhan o sioe goginio a rhan o raglen deithio ac yn y bennod gyntaf roedd y ddeuawd yn teithio ar hyd Portiwgal.
Ym mis Mehefin eleni, teithiodd miloedd o feicwyr modur o Lundain i dref enedigol Myers yn Barrow-in-Furness fel rhan o’r Dave Day cyntaf, taith beiciau modur coffa er anrhydedd i’r cogydd teledu.