Israel wedi dewis rhestr fer o dargedau ar gyfer ymosodiad ar Iran, yn ôl adroddiadau
Mae Israel wedi dewis rhestr fer o dargedau ar gyfer ymosodiad ar Iran yn ôl adroddiadau yn yr UDA.
Mae disgwyl i Israel daro asedau milwrol ac ynni Iran wrth ymateb i ymosodiad gan y Weriniaeth Islamaidd ar 1 Hydref.
Yn ôl rhwydwaith newyddion NBC mae adroddiad gan swyddogion yn yr UDA yn nodi bod Israel wedi "culhau" amcanion ei streic bosibl.
Yn ôl yr adroddiad nid yw’n glir ar hyn o bryd pryd neu ym mha ffordd y bydd yr ymosodiad yn digwydd.
Dywedodd y ffynonellau nad oedd Israel wedi rhoi gwybod iddynt beth oedd ei amserlen.
Yn ôl yr adroddiad, mae swyddogion hefyd yn honni nad oedd Israel yn bwriadu targedu seilwaith niwclear na llofruddio unigolion o fewn Iran.
Ar 1 Hydref , fe lansiodd Iran tua 180 o daflegrau balistig yn erbyn Israel.
Fe wnaeth Iran ymosod ar Israel ym mis Ebrill gan danio fwy na 300 o dronau a thaflegrau at Israel.
Llun: Wochit