Newyddion S4C

Wynne a Katya yn ymddiheuro am 'jôc wirion' ar Strictly Come Dancing

13/10/2024
Wynne Evans a Katya Jones

Mae’r Cymro Wynne Evans a’i bartner dawnsio Katya Jones wedi cyhoeddi negeseuon ar Instagram yn ymddiheuro am “jôc wirion” yn ystod sioe Strictly Come Dancing nos Sadwrn.

Mewn neges nos Sul dywedodd Katya Jones bod yr holl drafod am yr hyn oedd wedi digwydd yn "hurt".

Roedd clipiau o’r ddau wedi eu rhannu gan rai cannoedd o wylwyr ar y cyfryngau cymdeithasol oedd yn awgrymu nad oedd eu partneriaeth yn fêl i gyd.

Roedd y cyntaf yn dangos Katya Jones yn anwybyddu ymdrech gan Wynne Evans i roi ‘pawen lawen’ iddi, a’r ail yn ei dangos yn gwthio ei law oddi ar ei chanol.

Digwyddodd y ddau beth yn yr ardal lle mae’r enwogion a’u partneriaid dawnsio yn aros wrth glywed canlyniadau’r dawnsiau unigol.

Dywedodd Katya yn y fideo cyntaf: “Helo bawb, Wynne a Katya sydd yma.

“Hoffwn ni ddweud mai dim ond chwarae yn wirion oedden ni yn y Clauditorium nos Sadwrn a hoffwn ni ddweud sori.

“Roedd o’n jôc wirion.”

Fe ychwanegodd Wynne Evans, sy’n enwog am ei rôl ar hysbysebion Go Compare: “Ie, sori.”

Ychwanegodd mewn neges destun ar Instagram: “Ymddiheuriadau am hyn heno roedden ni’n chwarae o gwmpas. Rydyn ni’n ffrindiau da go iawn.

“Mae’r pawen lawen yn jôc gyson. Mwynha dy noswaith Katya Jones.”

'Hurt'

Ddydd Sul fe gyhoeddodd Katya Jones fideo arall gan ddweud ei bod hi eisiau "gwneud pethau'n glir".

"Roedd y digwyddiad yn ymwneud â llaw a ddigwyddodd nos Sadwrn yn jôc gwirion iawn rhwng Wynne a minnau," meddai.

"Felly mae hyd yn oed y syniad ei fod yn gwneud i mi deimlo'n anghyfforddus neu ei fod yn sarhaus mewn unrhyw ffordd yn nonsens llwyr. 

"Mae'n hurt mewn gwirionedd. Felly gadewch i ni ganolbwyntio ar ba mor wych mae Wynne Evans yn ei wneud a'i fod yn ddawnsiwr anhygoel!"

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.