
Teyrngedau i gyn Brif Weinidog yr Alban Alex Salmond sydd wedi marw yn 69 oed
Teyrngedau i gyn Brif Weinidog yr Alban Alex Salmond sydd wedi marw yn 69 oed
Mae cyn Brif Weinidog yr Alban Alex Salmond wedi marw yn 69 oed.
Fe aeth y cyn AS ac Aelod o Senedd yr Alban yn sâl tra yng Ngogledd Macedonia.
Roedd Salmond, a arweiniodd Plaid Genedlaethol yr Alban rhwng 1990 a 2000 ac yna eto rhwng 2004 a 2014, yn ffigwr amlwg ym mudiad cenedlaetholgar y wlad.
Dywedodd Prif Weinidog yr Alban John Swinney bod marwolaeth annisgwyl Alex Salmond "wedi fy syfrdanu a’m tristau’n fawr".
"Estynnaf fy nghydymdeimlad dwysaf i wraig Alex, Moira, ac i’w deulu," meddai.
"Gweithiodd Alex yn ddiflino ac ymladdodd yn ddi-ofn dros y wlad yr oedd yn ei charu a thros ei hannibyniaeth.
"Aeth â Phlaid Genedlaethol yr Alban o ymylon gwleidyddiaeth yr Alban i lywodraeth ac arweiniodd yr Alban mor agos at ddod yn wlad annibynnol."
Mae Prif Weinidog y DU hefyd ymysg y rheini sydd wedi rhoi teyrnged i Alex Salmond.
Dywedodd Syr Keir Starmer: “Am fwy na 30 mlynedd, roedd Alex Salmond yn ffigwr mawr iawn yng ngwleidyddiaeth yr Alban a’r DU. Mae'n gadael etifeddiaeth sylweddol ar ei ôl.
“Fel Prif Weinidog yr Alban roedd yn brwydro dros dreftadaeth, hanes a diwylliant yr Alban, yn ogystal â’r cymunedau yr oedd yn eu gwasanaethu fel AS ac Aelod o Senedd yr Alban dros nifer o flynyddoedd.
“Mae fy meddyliau gyda’r rhai oedd yn ei adnabod, ei deulu a’i anwyliaid. Ar ran llywodraeth y DU, rwy’n cydymdeimlo â nhw heddiw.”
Inline Tweet: https://twitter.com/PrifWeinidog/status/1845172876065861731
Dywedodd arweinydd Plaid Cymru Rhun ap Iorwerth:
“Roedd Alex Salmond yn ffigwr aruthrol yng ngwleidyddiaeth yr Alban a’r DU ac yn un o arweinwyr mwyaf dylanwadol ein hoes.
“Symudodd annibyniaeth o’r ymylon i brif ffrwd trafodaeth wleidyddol a chychwyn cyfnod newydd o obaith a dyhead i bobol yr Alban.
“Mae fy meddyliau gyda’i ffrindiau a’i deulu ac ar ran Plaid Cymru rwy’n cydymdeimlo’n ddiffuant ar yr adeg drist yma.”
'Chwalu perthynas'
Mewn datganiad dywedodd cyn Brif Weinidog yr Alban, Nicola Sturgeon ei fod yn “sioc" clywed am ei farwolaeth.
“Yn amlwg, ni allaf gymryd arnaf na ddigwyddodd digwyddiadau’r blynyddoedd diwethaf a arweiniodd at chwalu ein perthynas, ac ni fyddai’n iawn i mi geisio gwneud hynny," meddai.
“Fodd bynnag, mae'n wir bod Alex wedi bod yn ffigwr hynod arwyddocaol yn fy mywyd am flynyddoedd lawer.
"Ef oedd fy mentor, ac am fwy na degawd fe wnaethon ni ffurfio un o’r partneriaethau gwleidyddol mwyaf llwyddiannus yn y DU.
“Fe wnaeth Alex foderneiddio yr SNP a’n harwain i lywodraeth am y tro cyntaf, gan ddod yn bedwerydd Prif Weinidog yr Alban a pharatoi’r ffordd ar gyfer refferendwm 2014 a aeth â’r Alban at drothwy annibyniaeth.
“Dyna fydd yn cael ei gofio amdano. Mae fy meddyliau i gyda Moira, ei deulu ehangach a’i ffrindiau.”

'Canolog'
Dywedodd cyn Brif Weinidog Cymru, Carwyn Jones ei fod yn "syndod mawr" clywed am ei farwolaeth.
"P’un a oeddech chi'n cytuno ag e ai peidio, roedd yn ffigwr enfawr yng ngwleidyddiaeth yr Alban," meddai.
Dywedodd ei fod wedi ei weld y llynedd ac roedd "mewn hwyliau da".
"Mae fy meddyliau gyda'i deulu ar yr adeg hon," meddai.
Dywedodd arweinydd Llafur yr Alban, Anas Sarwar, bod Alex Salmond yn “ffigwr canolog mewn gwleidyddiaeth ers dros dri degawd”.
“Bydd y newyddion trist am farwolaeth Alex Salmond heddiw yn sioc i bawb oedd yn ei adnabod yn yr Alban, ar draws y DU a thu hwnt," meddai.
“Mae ein meddyliau gyda’i deulu a’i ffrindiau ar yr amser anodd hwn ac ar ran Llafur yr Alban rwy’n cydymdeimlo’n ddiffuant â phawb a fydd yn galaru amdano.
“Roedd Alex yn ffigwr canolog mewn gwleidyddiaeth am dros dri degawd ac ni ellir gorbwysleisio ei gyfraniad at dirwedd wleidyddol yr Alban.”
Mewn neges ar X, Twitter gynt, dywedodd y cyn Brif Weinidog Rishi Sunak: "Roedd Alex Salmond yn ffigwr enfawr yn ein gwleidyddiaeth.
"Er fy mod i'n anghytuno ag ef ar y cwestiwn cyfansoddiadol, nid oedd modd gwadu ei allu mewn dadl na'i angerdd am wleidyddiaeth.
"Bydded iddo orffwys mewn heddwch.”

'Gwlad nid sir yw’r Alban'
Fe ddefnyddiodd Alex Salmond ei fandad fel prif weinidog i gynnal refferendwm ar annibyniaeth yr Alban yn 2014.
Trechwyd ymgyrch "Yes Scotland" ac ymddiswyddodd o'r herwydd.
Roedd wedi ffurfio plaid Alba ers 2021.
Roedd Alex Samond ei hun wedi trydar gwta deirawr cyn ei farwolaeth, wrth ymateb i gyfarfod cyntaf Cyngor y Cenhedloedd a’r Rhanbarthau yng Nghaeredin ddydd Gwener.
Gorffennodd gyda'r geiriau: "Fe’i cynlluniwyd i leihau statws ein Senedd a’r Prif Weinidog.
"Mae rhan o ddod yn annibynnol yn ymwneud â meddwl yn annibynnol, nid mewn modd eilradd.
"Dylai John [Swinney, y Prif Weinidog] fod wedi gwrthod y cyfarfod yn gwrtais gyda’r geiriau 'Gwlad nid sir yw’r Alban'."