Carcharu dyn o Sir y Fflint am gam-drin plant yn rhywiol
Mae dyn 62 oed o Sir y Fflint wedi ei garcharu am am gam-drin dwy ferch ifanc yn rhywiol flynyddoedd yn ôl.
Mi ymddangosodd Michael Bennett o Maes Gwyn, y Fflint gerbron Llys y Goron, Caernarfon, a oedd yn eistedd yn Llys Ynadon Llandudno ar gyfer y ddedfryd ddydd Gwener.
Fe wnaeth y llys ei gael yn euog o dri trosedd o ymosod yn rhywiol ar blentyn a ddigwyddodd rhwng 2006 a 2007.
Fe gafodd Bennett ddedfryd o saith mlynedd yn y carchar, ac fe dderbyniodd Orchymyn Atal Niwed Rhywiol.
Mae hefyd wedi derbyn dau orchymyn atal di-derfyn er mwyn gwarchod y dioddefwyr.
'Dewrder'
Dywedodd y swyddog ymchwilio, y Ditectif Gwnstabl Gemma Smith: “Mae ymddygiad Bennett wedi achosi trawma seicolegol ac wedi gadael creithiau ar y dioddefwyr, fydd yn aros efo nhw am byth.
“Mae nhw wedi goddef aros poenus er mwyn cyrraedd lle ‘da ni heddiw.
“Ni wnaiff unrhyw ddedfryd ddychwelyd y blynyddoedd gymerodd Bennett oddi wrthyn nhw, ond dwi wir yn gobeithio bod y ddedfryd yn eu helpu mewn rhyw ffordd tuag at ddiweddglo a chyfiawnder, gan wybod na allai o achosi niwed i unrhyw blant na merched eraill.
“’Dwi’n eu cymeradwyo am eu dewrder drwy riportio’r troseddau hanesyddol erchyll hyn, ac am eu dewrder parhaus a’u hymgysylltiad drwy gydol yr ymchwiliad a’r achos llys.
“Da ni’n cymryd bob hysbysiad o drais rhywiol yn wirioneddol o ddifri – heb ots pa mor bell yn ôl ddigwyddodd y troseddau.
“’Dwi’n annog unrhyw un sydd wedi cael profiad o ymddygiad o’r fath i gysylltu â ni ac i beidio â dioddef yn dawel. Mi wnawn ni wrando, ac mi wnawn ni eich cynorthwyo, ac mi allwn ni eich cyfeirio at asiantaethau trydydd parti, gan gynnwys Ymgynghorwyr Trais Rhywiol Annibynnol (ISVAs) er mwyn eich cynorthwyo drwy’r achos llys.”